Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.
erydiadPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio. yw’r broses sy’n treulio gwely a glannau’r afon. Mae erydiad hefyd yn torri’r creigiau sy’n cael eu cludo gan yr afon yn ddarnau llai.
Mae pedwar math o erydiad:
Gweithred hydrolig - grym aruthrol y dŵr wrth iddo daro yn erbyn glannau’r afon yw hyn. Mae aer yn cael ei ddal yn y craciau yn y graig sy’n ffurfio glan a gwely’r afon, ac yn achosi i ddarnau o’r graig ddod yn rhydd.
Sgrafelliad - pan mae cerigos yn cael eu codi gan y dŵr sy’n llifo ac yn taro yn erbyn glan a gwely’r afon, gan eu treulio.
Athreuliad - pan mae creigiau sy’n cael eu cludo gan yr afon yn taro yn erbyn ei gilydd. Maen nhw’n torri’n ddarnau llai a mwy crwn.
Hydoddiant - pan mae’r dŵr yn hydoddi rhai mathau o greigiau, ee calchfaen.