Proffiliau afon
Hydbroffil
Mae hydbroffil yn dangos sut y mae’r afon yn newid yn ystod ei chwrs o’r tarddiadLle mae afon yn cychwyn yn ei chwrs uchaf. (lle mae’n cychwyn) i’r aberLle mae afon yn cwrdd â’r môr. (lle mae’n cyrraedd y môr).
Cwrs uchaf – dyma ble mae’r afon yn cychwyn ac fel arfer mae ar dir uchel. Mae gan yr afon llwythY gronynnau o graig a gaiff eu cario gan afon. mawr yn y cwrs uchaf, gan nad yw wedi cael ei dorri’n ddarnau llai drwy erydiadPan fydd darnau o graig, pridd neu ddefnyddiau solid eraill yn treulio. eto.
Cwrs isaf – yng nghwrs olaf yr afon mae’r tir yn llawer mwy gwastad. Gwaddod mân yw llwyth yr afon, gan fod erydiad wedi torri’r creigiau’n ddarnau llai.
Trawsbroffil
trawsbroffilTrawstoriad o’r dyffryn a sianel yr afon. yw golwg o’r dyffrynArdal o dir isel rhwng bryniau neu fynyddoedd, sydd ag afon yn llifo drwyddi fel arfer. o un ochr i’r llall.
A - wrth i’r afon lifo ar i lawr mae erydiad fertigolPan fydd tir yn erydu neu’n treulio am i lawr, er enghraifft bydd afon ar lefel uchel yn erydu’n fertigol oherwydd bod disgyrchiant yn tynnu’r dŵr am i lawr. yn cynyddu. Mae’r sianel yn fas ac yn gul gan nad oes llawer o ddŵr ynddi.
B - wrth i’r afon lifo i’r cwrs canol, mae rhywfaint o erydiad fertigol, ond mwy o erydiad ochrolPan fydd y tirwedd yn treulio wrth i afon erydu i’r ochr.. O ganlyniad, mae’r sianel yn lletach ac yn ddyfnach.
C - yn y cwrs isaf mae llawer llai o erydiad ac mae dyddodiad yn cael mwy o ddylanwad. Ychydig o erydiad ochrol sy’n digwydd yma. Dyma ran letaf a dyfnaf y sianel.