Mae symud o gwrs uchaf afon i’r cwrs isaf yn effeithio ar gyfraddau erydiad, trawsgludiad a dyddodiad. Mae hyn yn arwain at ddatblygu tirffurfiau bach a mawr.
Mae’r afon yn codi gwaddod ac yn ei gludo i lawr yr afon mewn gwahanol ffyrdd.
Mae pedwar math o drawsgludiad:
Rholiant – mae cerigos mawr, trwm yn cael eu rholio ar hyd gwely’r afon. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger tarddiadLle mae afon yn cychwyn yn ei chwrs uchaf. afon, gan fod y llwyth yn fwy yma.
Neidiant – mae cerigos yn sboncio ar hyd gwely’r afon. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger y tarddiad.
Daliant – mae gwaddod ysgafnach yn cael ei ddal (cludo) yn y dŵr. Mae hyn yn fwyaf cyffredin ger aberLle mae afon yn cwrdd â’r môr. yr afon.
Hydoddiant – cludo cemegion sydd wedi hydoddi. Mae hyn yn amrywio ar hyd yr afon gan ddibynnu a oes creigiau hydawdd o gwmpas.