Yr EglwysGweddïo cymunedol

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Gweddïo cymunedol

Mae gweddïo cymunedol yn golygu gweddïo gyda phobl eraill. Mae hyn yn gallu digwydd yn ystod gwasanaeth eglwys, neu mewn cyfarfod o Gristnogion sydd wedi trefnu gweddïo gyda’i gilydd. Mae'r math hwn o weddïo'n gallu helpu Cristnogion i gysylltu â'i gilydd yn ogystal â Duw, a helpu i gryfhau'r gymuned Gristnogol.

Gweddïau gosodedig

Gweddïau gosodedig yw gweddïau adnabyddus, fel Gweddi'r Arglwydd. Bydd y rhan fwyaf o Gristnogion yn gwybod y rhain ar eu cof. Yn aml, mae'r gweddïau hyn yn arbennig o ystyrlon a phwysig i Gristnogion, ac maen nhw'n ddefnyddiol wrth weddïo'n gymunedol ac addoli ar y cyd. Mae Gweddi'r Arglwydd yn cael ei hadrodd yn y rhan fwyaf o wasanaethau Cristnogol. Cafodd y weddi hon ei defnyddio gan Iesu i helpu i ddysgu ei ddilynwyr i weddïo.

Mae addoli cyhoeddus yn helpu Cristnogion i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r Beibl, bywyd Iesu a dysgeidiaethau Cristnogol. Mae hefyd yn galluogi pobl sy'n cael Cymun Sanctaidd i groesawu Iesu i'w calonnau.

Question

Una'r diffiniadau isod, i ddisgrifio'r gwahanol fathau o weddi.

Math o weddi

  • Gweddi breifat
  • Gweddi osodedig
  • Gweddi anffurfiol
  • Gweddi fyrfyfyr
  • Gweddi gymunedol

Diffiniadau

  • Gweddïo ar Dduw gan ddefnyddio iaith symlach, gyffredin
  • Gweddïo gyda phobl eraill
  • Gweddïo ar y pryd
  • Gweddïo ar dy ben dy hun
  • Gweddïau adnabyddus, megis Gweddi'r Arglwydd