Yr EglwysSwyddogaeth yr eglwys leol

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Swyddogaeth yr eglwys leol

Prif swyddogaeth eglwys neu gapel lleol yw rhoi lle i bobl fynd i addoli. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n mynychu gwasanaethau'r eglwys, neu sy'n ymweld â'r eglwys i weddïo'n breifat.

Mae llawer o ddigwyddiadau crefyddol eraill yn cael eu cynnal mewn eglwys, fel seremonïau defodau newid byd. Mae defodau newid byd yn cynnwys, ee:

  • bedydd
  • priodas
  • angladd

Mae llawer o grwpiau astudio'r Beibl i blant ac oedolion, fel ysgol Sul, hefyd yn gallu cael eu cynnal mewn eglwysi a chapeli lleol.