Yr EglwysSwyddogaeth gymdeithasol a chymunedol eglwysi

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Swyddogaeth gymdeithasol a chymunedol eglwysi

Mae Cristnogion yn credu mai rhan o'u dyletswydd yw ymddwyn mewn modd moesol, ac mae hyn yn cynnwys helpu pobl eraill o'u cwmpas nhw. Mae'r Eglwys yn gallu rhoi cymorth mawr i Gristnogion i helpu pobl eraill drwy ddarparu:

  • banciau bwyd – rhywle mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn gallu mynd iddo i gasglu bwyd
  • Byddin yr Iachawdwriaeth – enwad Cristnogol sy'n helpu pobl sy'n dioddef
  • cymorth i bobl ddigartref – mae Housing Justice yn elusen Gristnogol sy'n ceisio sicrhau bod gan bawb gartref

Mae llawer o ddigwyddiadau sydd ddim yn grefyddol hefyd yn cael eu cynnal mewn eglwys, er enghraifft:

  • cyfleusterau crèche
  • grwpiau ieuenctid
  • mannau cyfarfod cymunedol (er enghraifft, dosbarthiadau cadw'n heini)
  • dosbarthiadau addysg i oedolion
  • digwyddiadau elusennol
  • boreau coffi
  • partïon pen-blwydd
  • cyngherddau

Dysgodd Iesu am bwysigrwydd helpu pobl eraill lai ffodus, a dyma pam mae'r Eglwys yn cynnal y digwyddiadau ychwanegol hyn.

Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd imi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod imi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i'ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.
Mathew 25:35-36

Question

Disgrifia brif swyddogaethau'r Eglwys.