Yr EglwysAddoli'r Bedyddwyr

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Addoli'r Bedyddwyr

Mae yn credu eu bod nhw, wrth addoli drwy fawl a gweddi, yn eu cynnig eu hunain i Dduw i ddiolch am ei gariad. Mae Duw a'i bobl yn siarad â'i gilydd drwy addoli. Mae'n cael ei weld fel deialog ac mae'r . Mae llawer llai o strwythur na mewn gwasanaethau , a .

Does dim awdurdod sy’n dweud wrth y Bedyddwyr sut i addoli. Aelodau pob eglwys Bedyddwyr leol sy'n gwneud pob penderfyniad.

Er bod ganddyn nhw weinidogion wedi'u , mae Bedyddwyr yn credu yn Offeiriadaeth y Credinwyr, sy'n golygu bod gan bob aelod hawl i ddehongli'r a gweinidogaethu i bobl eraill. Mae'r gweinidog wedi'i ordeinio'n aelod hafal o'r gymuned sy'n cyflawni'r cyfrifoldebau a roddir gan y gynulleidfa. Mae'r neu yn cael arwain gwasanaeth Bedyddwyr.

Nodweddion addoli

  • Mae addoli'n canolbwyntio ar y Beibl - ei ddarllen, clywed pregethau amdano neu ei drafod.
  • Mae'r rhan fwyaf o eglwysi'n cynnwys neu ganeuon addoli yn y gwasanaeth.
  • Mae fel arfer yn cael ei ddathlu unwaith y mis.
  • Mae gan rai eglwysi ran arbennig lle mae plant yn cymryd rhan. Mae modd defnyddio drama, dawns neu i ddod â neges darn o'r Beibl yn fyw.
  • Mae Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr wedi cyhoeddi llyfr, Gathering for Worship, sy'n cynnig arweiniad a gweddïau i eglwysi lleol eu defnyddio.

I'r Bedyddwyr, mae addoli yn yr eglwys yn gyfle i siarad am yr â'r bobl sy'n bresennol ac sydd ddim wedi ymrwymo'n llawn eto i ffydd yn Iesu.