Pwysigrwydd gweddïo
Mae addoli'n rhan hanfodol o ffydd Cristion. Mae Cristnogion yn addoli Duw i ddiolch iddo am ei gariad, i ofyn am faddeuant am eu pechodY weithred o wrthryfela neu anufuddhau yn erbyn ewyllys Duw mewn Iddewiaeth, Cristnogaeth neu Islam. ac i geisio deall ei 'ewyllys' ar eu cyfer.
Gweddïo a myfyrio
Mae Cristnogion yn disgrifio gweddiCyfathrebu â Duw. Ffordd o ddatblygu perthynas bersonol â Duw. fel sgwrs gyda Duw. Maen nhw'n gallu gweddïo'n dawel neu ar lafar. Mae gweddïau'n gallu defnyddio geiriau penodol, neu eiriau'r unigolyn ei hun. Wrth weddïo, mae Cristnogion yn codi eu meddyliau a'u calonnau at Dduw.
Mae llawer o wahanol fathau o weddïau, gan gynnwys:
- addoliad - moli Duw am ei fawredd a chydnabod dibyniaeth arno
- cyffes - cyfaddef pechod a gofyn am trugareddDangos tosturi neu garedigrwydd. a maddeuant Duw
- diolchgarwch - diolch i Dduw am ei holl fendithion, er enghraifft iechyd neu blant
- erfyniad - gofyn i Dduw am rywbeth, er enghraifft iacháu, dewrder neu ddoethineb
- eiriolaeth - gofyn i Dduw helpu pobl eraill mewn angen, er enghraifft cleifion, pobl dlawd, pobl sy'n dioddef mewn rhyfel
Natur a phwysigrwydd gweddïo
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu bod gweddïo'n dyfnhau ffydd rhywun. Mae gweddïo'n gallu helpu pobl i ddeall diben Duw ar gyfer eu bywydau. Mae Cristnogion yn gallu dehongli ymateb Duw i'w gweddïau yn y ffyrdd canlynol:
- Mae Duw yn ateb gweddïau, ond nid bob amser yn y ffordd yr hoffai'r unigolyn. Os na chaiff gweddi ei hateb, efallai fod yr unigolyn wedi gofyn am rywbeth nad yw Duw yn meddwl y byddai'n dda iddo, neu efallai y caiff ei weddi ei hateb yn nes ymlaen.
- Weithiau mae Cristnogion yn meddwl bod Duw wedi ateb eu gweddïau mewn ffyrdd eithaf trawiadol, er enghraifft rhywun sâl yn gwella. Weithiau mae nhw'n ystyried hyn yn gwyrthRhywbeth sy'n torri rheolau gwyddoniaeth ac y tybir ei fod wedi ei achosi gan Dduw mewn crefydd theistig neu gan bwerau arbennig mewn Bwdhaeth..
- I rai Cristnogion, mae myfyrdodMeddwl yn dawel fel ymarfer ysbrydol neu grefyddol. Cysylltu'r meddwl a'r enaid â'r Dwyfol gan ddefnyddio technegau anadlu a thechnegau eraill. Mewn Bwdhaeth, defnyddio un o set o dechnegau neu arferion i dawelu'r meddwl, datblygu emosiynau cadarnhaol a deall sut y mae pethau. yn ffordd o geisio cyrraedd lefel ysbrydolYn ymwneud â'r ysbryd neu'n ymwneud â phethau sanctaidd. uwch.
- Mae eraill, yn enwedig Cristion UniongredCristion, yn nwyrain Ewrop a Rwsia yn enwedig, sydd wedi gwrthod y syniad o Esgob Rhufain fel unig arweinydd yr Eglwys Gristnogol., yn defnyddio 'Gweddi Iesu',
Arglwydd Iesu Grist, Mab y Duw Byw, bydd drugarog wrthyf i, bechadur
. Weithiau byddan nhw'n llafarganu'r weddi hon dro ar ôl tro i glirio eu meddyliau a chael hedd mewnol.
Mae Cristnogion eraill, yn enwedig Yr Eglwys GatholigY Pab sy'n arwain yr Eglwys Gatholig. Mae'r Eglwys Gatholig yn dysgu bod gan y Pab awdurdod arbennig sy'n deillio o'r Iesu ei hun., yn defnyddio llaswyrCadwyn o fwclis a ddefnyddir fel dull o weddïo neu fyfyrio, er enghraifft gan Fwdhyddion a Christnogion Catholig. i fyfyrio ar fywyd Iesu.
Mae canhwyllau neu croesCymorth addoli Cristnogol sy'n dwyn i gof farwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu. yn gallu helpu Cristnogion i ganolbwyntio ar eu myfyrdod a gadael i'r Ysbryd GlânTrydydd Person/elfen y Drindod. Yn weithredol fel presenoldeb a nerth Duw yn y byd. ddod i mewn i'w calonnau.