Yr EglwysYr Eglwys Anglicanaidd a'r Eglwys yng Nghymru

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Addoli yn yr Eglwys Anglicanaidd a'r Eglwys yng Nghymru

Tu allan Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Image caption,
Eglwys Gadeiriol Llanelwy, yn Sir Ddinbych, gogledd Cymru yw’r Fam Eglwys yn esgobaeth Llanelwy, un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru

Mae addoli cyhoeddus yn canolbwyntio ar foli Duw drwy , darllen y , gweddïo a chwarae cerddoriaeth, yn enwedig yng ngwasanaeth y lle mae pobl yn derbyn y bara a'r gwin. Oherwydd bod hyn yn , mae'r geiriau a'r gweithredoedd i'w dilyn wedi'u nodi yn y . Hefyd mae yna wasanaethau boreol weddi a hwyrol weddi.

Nodweddion addoli

  • Yr neu'r Bwrdd Cymun yw'r prif ffocws, a dyma lle mae gwasanaeth y Cymun Sanctaidd yn digwydd. Mae hyn oherwydd bod marwolaeth Iesu yn cael ei hystyried yn . Hefyd, mae lle mae'r yn cael ei phregethu a i roi'r Beibl arni i'w ddarllen yn uchel i'r gynulleidfa.
  • Weithiau bydd seddau côr ac organ i roi cyfeiliant wrth ganu . Mae canhwyllau a chroes yn atgoffa pobl o farwolaeth Iesu a'i . Mae gan lawer o eglwysi ffenestri gwydr lliw sy'n arddangos straeon mewn lluniau o'r Beibl.
  • Mae rhai gwasanaethau yn ffurfiol iawn ac yn debyg i , ond mae eraill yn syml iawn ac yn anffurfiol.
  • Yr sy'n arwain y Cymun Sanctaidd yn y rhan fwyaf o eglwysi, ond mewn rhai bydd darllenydd yn eu cynnal. Ar wahanol adegau, bydd pobl yn mynd at yr allor i gael bara a gwin, sy'n cynrychioli corff a gwaed Iesu Grist.
  • Mae'r gynulleidfa'n dilyn y gwasanaeth yn y llyfr gweddi ac yn ymateb i'r gweddïau ar lafar. Mae'r darlleniadau a rhai gweddïau'n newid bob wythnos, ond mae eraill yn aros yr un fath. Caiff darlleniadau o'r Beibl eu dilyn gan bregeth sy'n esbonio eu hystyr i bobl heddiw.

Fel rheol, bydd y gwasanaeth yn diweddu â chyfle i fyfyrio'n dawel.