Yr EglwysNodweddion eglwysi

Mae gan yr Eglwys Gristnogol lawer o enwadau. Mae gan eglwysi a chapeli nodweddion ac arferion addoli amrywiol, ond maen nhw i gyd yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweddi - yn breifat ac yn gymunol.

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 1

Nodweddion eglwysi

Mae gan eglwysi a chapeli lawer o wahanol nodweddion mewnol sydd wedi'u dylunio i helpu pobl i addoli. Mae nodweddion a chynllun gwahanol enwadau'n gallu amrywio rywfaint.

Yr Eglwys Gatholig

Yn draddodiadol, mae eglwysi'r Eglwys Gatholig wedi'u hadeiladu ar siâp croes, a phen y groes yn wynebu Jerwsalem.

Enw pen dwyreiniol yr eglwys yw'r ac mae'n cynnwys:

  • yr - bwrdd lle mae'r bara a'r gwin yn cael eu bendithio yn ystod yr
  • y - stand i ddarllen y Beibl oddi arno
  • y - lle mae'r offeiriad yn pregethu
  • ag Iesu arni

Mae rheilen yn gwahanu'r seintwar a'r man lle mae'r gynulleidfa'n eistedd, sef . Yng nghorff yr eglwys mae rhesi o seddau yn aml, lle mae'r gynulleidfa'n eistedd mewn rhesi ar feinciau.

O gwmpas yr eglwys mae 14 o luniau mewn fframiau, sef , sy'n dangos digwyddiadau croeshoelio Iesu.

Dyma rai nodweddion eraill y gellir eu gweld mewn eglwys Gatholig:

  • – powlen garreg fawr sy'n cynnwys dŵr sanctaidd i'w ddefnyddio i fedyddio babanod
  • – basn bach, fel arfer yn cynnwys dŵr sanctaidd, y mae Catholigion yn rhoi eu llaw ynddo i wneud arwydd y groes er mwyn adnewyddu addewidion eu bedydd
  • cerfluniau o ffigyrau crefyddol, er enghraifft Crist, Mair neu seintiau
  • ffenestri gwydr lliw - mae'r rhain yn aml yn dangos straeon o'r Beibl neu ddysgeidiaethau crefyddol
  • canhwyllau – yn aml bydd Catholigion yn goleuo'r rhain wrth weddïo
  • organ i roi cyfeiliant i ganu emynau
  • cyffesgell – cwpwrdd bach caeedig, lle mae Catholigion yn gallu cyfaddef eu pechodau i'r offeiriad
Diagram of the inside of a Catholic Church.

Eglwysi Anglicanaidd

Mae'r tu mewn i eglwysi Anglicanaidd yn gallu edrych yn debyg i eglwysi Catholig. Mae eglwysi Anglicanaidd hefyd yn aml ar siâp croes, a seintwar yn y pen dwyreiniol.

Mae eglwysi Anglicanaidd yn aml yn llawer mwy plaen nag eglwysi Catholig, ac mae llai o gerfluniau a chanhwyllau ynddyn nhw.

Fel rheol, bydd eglwys Anglicanaidd yn arddangos croes syml heb Iesu arni. Mae'n bosibl y bydd bedyddfaen yno, ond dim cawg o ddŵr sanctaidd.

Offeiriaid, y côr a'r gynulleidfa o dan y bwa concrit mawr yng nghorff Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ystod gwasanaeth
Image caption,
Mae corff Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ne Cymru yn anarferol oherwydd bod bwa concrit mawr yn ei ganol, sy'n cynnal cas yr organ