Gweddïo preifat
Mae gweddïo preifat yn golygu bod rhywun yn gweddïo ar ei ben ei hun. Mae Cristnogion yn gweld hyn yn bwysig iawn, oherwydd mae'n amser iddyn nhw gysylltu'n bersonol â Duw.
Mae addoli preifat yn rhoi cyfle i Gristnogion dreulio amser ar eu pennau eu hunain gyda Duw. Mae gweddiCyfathrebu â Duw. Ffordd o ddatblygu perthynas bersonol â Duw., myfyrdodMeddwl yn dawel fel ymarfer ysbrydol neu grefyddol. Cysylltu'r meddwl a'r enaid â'r Dwyfol gan ddefnyddio technegau anadlu a thechnegau eraill. Mewn Bwdhaeth, defnyddio un o set o dechnegau neu arferion i dawelu'r meddwl, datblygu emosiynau cadarnhaol a deall sut y mae pethau., astudiaeth FeiblaiddAddoliad Cristnogol pan fydd pobl yn astudio'r Beibl, naill ai ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau bach, ac yn myfyrio ar ei ystyr ar gyfer eu bywydau. a chanu emynCân grefyddol sy'n rhoi clod a mawl i Dduw. i gyd yn gallu cael eu gwneud gartref. Mae Cristnogion yn gallu uno ag Eglwys Duw wrth weddïo heb fynd i adeilad eglwys. Mae rhai Cristnogion yn perthyn i'r mudiad 'eglwys dŷ/grŵp tŷYr enw ar grwpiau bach o Gristnogion sy'n cwrdd i addoli mewn tai, heb arweinwyr penodol nac adeiladau arbennig.' ac yn cyfarfod i addoli yn eu cartrefi ei gilydd.
Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn defnyddio'r BeiblLlyfr sanctaidd y Cristnogion wedi'i rannu'n ddwy adran: yr Hen Destament a'r Testament Newydd. wrth addoli'n breifat. Mae rhai yn ei ddarllen i gyd dros nifer o flynyddoedd, neu efallai y byddan nhw'n myfyrio ar rannau penodol ohono. Mae rhai'n defnyddio canllaw astudio i ddysgu sut mae ysgolhaigRhywun sy'n astudio pwnc penodol, ac sydd â gwybodaeth fanwl. yn dehongli'r Beibl. Mae eraill yn darllen y SalmauLlyfr yn yr Hen Destament (Beibl Hebraeg/Iddewig) sy'n cynnwys caneuon o fawl ac addoliad. wrth weddïo.
Symboliaeth wrth addoli gartref
Mae Cristnogion yn defnyddio gwahanol wrthrychau symbolaethDefnyddio gwrthrych neu ddelwedd i gynrychioli rhywbeth arall. Cyfleu syniad mewn modd barddonol/symbolaidd yn hytrach na llythrennol. i'w helpu nhw i weddïo. Mae croesCymorth addoli Cristnogol sy'n dwyn i gof farwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu. neu crogCymorth addoli Cristnogol sy'n dwyn i gof farwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu. Ceir corff yr Iesu ar y grog, ond ni cheir unrhyw beth ar groes. yn eu hatgoffa nhw o aberth Iesu a'i atgyfodiadY gred Gristnogol fod yr Iesu wedi codi o farw'n fyw ar y trydydd dydd wedi'r croeshoeliad. Credinwyr yn codi o farw'n fyw ar Ddydd y Farn mewn bywyd newydd, neu atgyfodedig..
Bydd rhai'n goleuo cannwyll i greu'r awyrgylch iawn i deimlo presenoldeb Duw.
Yn aml, bydd Yr Eglwys GatholigY Pab sy'n arwain yr Eglwys Gatholig. Mae'r Eglwys Gatholig yn dysgu bod gan y Pab awdurdod arbennig sy'n deillio o'r Iesu ei hun. yn defnyddio llaswyr, sef llinyn o leiniau sy'n eu helpu nhw i gyfrif eu gweddïau wrth iddyn nhw fyfyrio am fywyd Iesu a galw ar Mair (Cristnogaeth)Mam yr Iesu. Enw arall arni yw y Forwyn Fair (Fendigaid) neu Ein Harglwyddes. i gynnig eu gweddïau i Dduw. Eiriolaeth yw'r enw ar hyn.
Gweddïau byrfyfyr
Gweddïau byrfyfyr yw gweddïau sy'n cael eu dweud ar y pryd. Un enghraifft o hyn fyddai os yw rhywun yn clywed newyddion drwg ac felly'n dweud gweddi dros y bobl dan sylw. Mae rhai Cristnogion yn credu bod y math hwn o weddïau'n fwy diffuant oherwydd dydyn nhw ddim wedi'u ‘trefnu’.
Gweddïau anffurfiol
Mae gweddi anffurfiol yn cyfeirio at weddi sy'n siarad â Duw mewn iaith symlach, fwy cyffredin.