Defnyddio dy gorffSymudiadau comig

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Symudiadau comig

Y mathau mwyaf amlwg o symudiadau comig yw gorwneud ac ailadrodd. Mae yna sawl moment eiconig mewn rhaglenni teledu sydd o bosib yn aros yn hirach yn y cof na’r rhaglenni eu hunain. Un enghraifft ydy David Jason fel Del Boy yn y ddrama gomedi boblogaidd, Only Fools and Horses, yn cwympo yn y dafarn ar ôl i’r cownter gael ei godi heb iddo sylwi. Roedd hwn yn amlwg yn foment a gafodd ei ymarfer yn ofalus, ac oedd yn dibynnu ar amseru a diffyg ymwybyddiaeth lwyr ar ran yr actor o’r hyn oedd ar fin digwydd.

Creodd y comediwr Harry Enfield gymeriad o’r enw Kevin, sef bachgen pwdlyd a blin yn ei arddegau. Roedd iaith ei gorff yn adlewyrchu hyn gyda’r cymeriad yn eistedd mewn osgo diog ac yn llusgo ei hun o gwmpas gyda’i wallt yn ei wyneb drwy’r amser.

Harry Enfield yn chwarae rhan Kevin the Teenager yn eistedd ar wely ac annibendod o'i amgylch
Image caption,
Harry Enfield yn chwarae rhan Kevin the Teenager

Un arall ydy ‘cerddediad doniol’ John Cleese mewn sgets Monty Python a gafodd ei ailgreu yn y ddrama gomedi glasurol, Fawlty Towers.

Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos fersiwn sydd ddim yn wleidyddol gywir (PC) o’r cerddediad gan Basil Fawlty ar ôl dioddef ergyd i’w ben