Iaith y corff
Iaith y corff ydy cyfathrebu gan ddefnyddio symudiad neu ystum, yn enwedig mynegiant yr wyneb, ystumiau a safle siaradwr a gwrandäwr mewn perthynas â’i gilydd. Gall olygu’r neges sy’n cael ei chyfleu neu gallai ychwanegu haenau o ystyr i’r geiriau sy’n cael eu llefaru.
Efallai dy fod wedi clywed iaith y corff yn cael ei galw’n gyfathrebu di-eiriau. Os wyt ti’n pendroni pa mor bwerus gall iaith y corff fod, meddylia pa mor aml mae negeseuon testun neu hyd yn oed alwadau ffôn yn gallu cael eu camddeall. Mae hyn oherwydd nad ydy’r gwrandäwr yn gweld mynegiant yr wyneb neu iaith y corff a fyddai’n cyfleu hwyl y siaradwr. Darllena Disgrifio mynegiant yr wyneb a Disgrifio iaith y corff i ddysgu mwy.
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos actorion yn Soho Theatre yn Llundain yn edrych ar effaith iaith y corff a’r defnydd o ofod