Amrywio symudiadau
Pan fyddi di’n actio rhan rywun o oedran gwahanol, meddylia am y canlynol:
Cyflymder
Yn gyffredinol rydyn ni’n arafu wrth fynd yn hŷn. Mae plant yn debygol o ddechrau rhedeg neu sgipio. Mae person hŷn yn symud yn fwy hamddenol. Hefyd mae pobl sy’n pwyso mwy yn debygol o symud yn arafach na rhywun llawer teneuach, am eu bod yn cario mwy o bwysau. Os byddi di’n chwarae rhan sy’n gofyn am wisgo deunydd padio, meddylia’n ofalus am yr effaith ar dy symudiadau.
Osgo
Wrth i’r corff gael ei effeithio gan salwch megis cryd cymalau neu arthritis, mae’n debygol o fod yn fwy crwm. Mae dynion yn tueddu i sefyll ac eistedd â’u coesau fwy ar led na merched. Pan fydd merched yn chwarae rhan sy’n golygu gwisgo ‘clôs pen-glin’ (pan fyddan nhw wedi eu gwisgo fel dyn) mewn drama gan Shakespeare, mae’n bwysig meddwl am sut mae symud a cherdded.
Cymryd camau
Cerddediad ydy’r term am y ffordd rwyt ti’n cerdded. Mae hyn yn rhannol yn dibynnu ar hyd dy goesau fel perfformiwr, ond meddylia am y ffordd y byddai person ifanc modern yn cerdded. Byddai merch mewn gwisg cyfnod drom yn cymryd camau bach i osgoi cael ei dal yn y defnydd. Cofia dalu sylw i unrhyw fanylion cymeriad neu wisg fydd yn effeithio ar dy symudiadau, ee mae maint person yn gallu effeithio ar symudiad.
Symud
Nid rhywbeth yn dy goesau a dy osgo yn unig ydy symud. Meddylia am effaith plygu pen neu grymu ysgwyddau.
Symud breichiau a dwylo
Mae angen i ti feddwl am bob agwedd ar dy symudiadau. Meddylia am y gwahaniaeth rhwng coflaid dyner mam a dwrn ymosodol rhywun yn ymladd. Ystyria'r cyferbyniad rhwng grym corfforol y cricedwr neu’r chwaraewr tenis a chryndod rhywun oedrannus neu sâl.