Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.
Mae symud ar y llwyfan yn ymwneud â symud dy gorff yn effeithiol. Bydd angen i ti feddwl am safle, graddfa a faint o symud sy’n argyhoeddi. Mae angen i symudiadau hefyd fod mewn perthynas ag eraill ar y llwyfan. Gallai fod cyswllt sylweddol rhyngddyn nhw, ee yng nghynhyrchiad Steven Berkoff o Oedipus yn 2011, lle mae’r cymeriadau i gyd ar y llwyfan yn gweithio gyda’i gilydd.
Image caption,
Actorion yn perfformio Oedipus gan Steven Berkoff LLUN: Helen Warner
Gall symudiadau fod yn gwbl realistig, neu’n arddulliedigYmdrech i ychwanegu at olygfa drwy ddefnyddio dulliau annaturiol. a chynrychioliadol. Mae hyn yn dibynnu ar y math o symudiadau mae cyd-destunGwybodaeth ychwanegol am destun sy’n ein helpu ni i'w ddeall; y digwyddiadau cefndirol sy'n helpu i egluro rhywbeth. dy gynhyrchiad yn gofyn amdanynt.