Defnyddio dy gorffPeidio â symud

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Peidio â symud

Mae diffyg symud yn gallu cael llawn cymaint o effaith â symud. Gall rhewi’r symud neu greu gyda llonyddwch emosiynol fod yn bwerus iawn. Mae’r pŵer yn dod yn sgil torri ar draws yr hyn sy’n naturiol. Rydyn ni’n disgwyl gweld symud, felly mae’r llonyddwch yn sioc. Mae’n gwneud i ni edrych ar beth sy’n digwydd, a defnyddio’r amser mae’r llonyddwch yn ei roi i ni i ddehongli’r hyn sy’n digwydd. Mae’n gallu cael ei ddefnyddio hefyd i nodi’r foment er mwyn edrych ar foment allweddol mewn amser. Mae hefyd yn creu cyferbyniad ac yn amrywio’r cyflymder, gan gadw’r gwaith yn ddiddorol. Darllena Strategaethau ymchwiliol i weld enghreifftiau eraill.

Tyndra

Gall tyndra fod yn gynhyrchiol iawn ond mae tyndra diangen yn rhywbeth y mae’n rhaid i actor ddysgu ei osgoi. Fydd dosbarth symud mewn ysgol ddrama ddim yn dy ddysgu sut i symud yn effeithiol mewn rôl benodol yn unig, ond bydd hefyd yn dy ddysgu sut i symud yn effeithiol yn dy gorff dy hun. Mae angen i ti ddefnyddio tyndra i greu cryfder emosiynol yn dy waith. Ond paid â gadael i densiwn neu dyndra sy’n dod yn sgil straen neu embaras fod yn rhwystr i ti.

Ymarferion

Mae’r clip Saesneg hwn o’r National Theatre yn dangos actorion yn paratoi at berfformiad wrth wneud ymarferion anadlu i gynhesu’r corff a’r llais. Beth am weld os galli di eu gwneud nhw.