Defnyddio dy gorffCommedia dell’arte

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Commedia dell’arte

Mae gwaith mwgwd a symudiadau’n elfennau allweddol mewn sef traddodiad comedi Eidalaidd oedd yn boblogaidd yn ystod y . Roedden nhw’n defnyddio nifer o gymeriadau stoc, ee Pantalone a’r gwas Arlecchino o’r ddrama Eidaleg Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr yn Gymraeg) gan Carlo Goldoni.

Mae perthynas Basil Fawlty a Manuel yng nghyfres gomedi Fawlty Towers y BBC, yn adleisio perthynas y meistr a'r gwas yn y commedia dell’arte. Roedd y plot yn blatfform ar gyfer nifer o olygfeydd gomedi a elwir yn lazzi. Roedd y rhain wedi eu seilio ar arferion personol cymeriad neu ryngweithio rhwng y cymeriadau. Byddai'r rhain yn gyfarwydd i'r gynulleidfa ac yn rhywbeth roedd aelodau’r gynulleidfa’n disgwyl eu gweld yn y perfformiad. Roedd y lazzi yn dibynnu'n bennaf ar symudiad, ee Arlecchino yn dal a bwyta pryfyn mewn ffordd arddulliedig, esgus bod yn gerflun fel ffordd o guddio, neu gael ei guro ar ei ben gan y meistr.

James Corden fel Francis Henshall yn One Man, Two Guvnors, National Theatre, 2011
Image caption,
James Corden fel Francis Henshall yn One Man, Two Guvnors, National Theatre, 2011 LLUN: Nigel Norrington/ArenaPAL
Il servitore di due padroni wedi ei gyfarwyddo gan Giorgio Strehler yn Piccolo Teatro di Milano
Image caption,
Il servitore di due padroni wedi ei gyfarwyddo gan Giorgio Strehler yn Piccolo Teatro di Milano LLUN: Piccolo Teatro di Milano/llun Ciminaghi

Mae’r clip Saesneg hwn o’r National Theatre yn gyflwyniad defnyddiol i fyd commedia dell’arte ac yn dangos y symudiadau corfforol sydd wedi eu gorwneud sydd eu hangen gan y perfformwyr. Mae is-deitlau ar gael.