Defnyddio dy gorffOsgoi rhwystrau

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Osgoi rhwystrau

Graffeg o ddau gymeriad yn gwrthdaro ar lwyfan, ond yn parhau i fod yn weladwy i'r gynulleidfa

Un o’r pethau sy’n gallu peri anhawster i actor dibrofiad ydy cyffwrdd â pherfformiwr arall. Gallai fod yn goflaid ramantaidd ond nid dyna’r unig beth sy’n gwneud i bobl deimlo’n chwithig. Ar y llwyfan, mae’n teimlo fel dy fod yn mynd i ofod personol yr actor arall. Fodd bynnag os galli di oresgyn dy bryder ynglŷn â chyffwrdd, boed yn llaw ar ysgwydd, coflaid neu gydio yn llaw rhywun i’w gyfarch yn frwd, bydd yn ychwanegu dilysrwydd i dy berfformiad.

Os byddai dy gymeriad wedi cyffwrdd â’r person arall ar y pwynt hwnnw yn y ddrama, yna dylet ti fel perfformiwr wneud hynny. Ond bydd yn ofalus i beidio â mynd ar draws actor arall. Dylet ti osgoi hyn drwy flocio dy olygfeydd cyn y perfformiad fel bod pob actor yn gwybod lle y dylai sefyll.

Symudiadau cyfnod

Gall hyn fod yn rhywbeth sydd angen llawer o ymchwil ac ymarfer gofalus. Pan fydd merch yn gwisgo esgyrn morfil, mae’n golygu bod yn rhaid iddi ddal ei hasennau yn anhyblyg, hyd yn oed pan fydd hi’n eistedd. Mae gwisgo , neu sgert enfawr, fel gwraig llys o'r 18fed ganrif, yn mynd i effeithio'n sylweddol ar symudiadau actor. Yn y 1770au, byddai’n rhaid i ferched uchelwrol mewn ffrogiau llydan iawn ddod drwy’r drws wysg eu hochr.

Marie de' Medici yn y dillad a wisgodd pan gafodd ei choroni
Image caption,
Marie de' Medici yn y dillad a wisgodd pan gafodd ei choroni LLUN: De Agostini/Getty Images

Rhaid i ddynion hefyd ddysgu ymdopi â gwisg cyfnod, boed yn gleddyf, cot dynn o ddechrau’r 19eg ganrif neu ddwbled a chlôs o gyfnod Shakespeare.

David Tennant yn chwarae rhan Berowne yn Love’s Labour’s Lost
Image caption,
David Tennant yn chwarae rhan Berowne yn Love’s Labour’s Lost LLUN: Tristram Kenton