Pwysigrwydd dy lais
Mae llais yn dweud cymaint wrthon ni am bobl. O ble maen nhw’n dod, eu personoliaeth a sut maen nhw’n teimlo.
Mae angen i actorion allu defnyddio eu lleisiau mewn ffordd amrywiol gan fod rhaid cyfleu amrywiaeth o emosiynau; rhaid iddyn nhw fod yn clirBod y cyflwyniad yn eglur ym mhob agwedd. Mae angen cywirdeb a rheolaeth er mwyn bod yn glir. er mwyn i bob gair gael ei glywed a rhaid cael digon o gryfder a cyseiniantAnsawdd llais neu sain - dwfn, llawn ac yn atseinio. i lenwi awditoriwm theatr.
Hefyd mae angen i actorion allu rheoli eu hanadl yn rhagorol er mwyn peidio â cholli stêm a phŵer eu lleisiau hanner ffordd drwy frawddeg. Rhaid iddyn nhw sicrhau bod y sain maen nhw’n ei wneud yn cael digon o aer cyson er mwyn gallu dweud y llinellau mewn ffordd gref, a hynny o dan reolaeth.
Elfennau lleisiol i’w hystyried
Ceir nifer o elfennau lleisiol gwahanol y dylet ti eu hystyried.
- Traw – siarad mewn llais uchel, isel neu naturiol.
- Cyflymder – pa mor gyflym mae rhywun yn siarad, ee cyflymder ymateb mewn dadl.
- Saib – gall saib dramatig ar ennyd hanfodol fod yn effeithiol iawn mewn perfformiad.
- Tôn - mae dy dôn yn awgrymu dy hwyliau a dy fwriadau i'r gwrandäwr, ee hapus, trist.
- Uchder – rhaid i’r gynulleidfa allu dy glywed, ond paid â gweiddi arni!
- Acen – bydd angen i ti ystyried yr acen fydd yn gweithio i dy gymeriad.
- Pwyslais – hwn ydy'r pwysau sy’n cael ei roi ar eiriau unigol sy'n gwneud iddyn nhw fod yn amlwg. Mae pwyslais penodol i greu effaith yn arwyddocaol a gall newid ystyr brawddeg yn ogystal â'r teimlad y tu ôl iddi.
- Goslef – y llais yn codi ac yn disgyn. Mae goslef y llais yn codi ar ddiwedd brawddeg wrth ofyn cwestiwn er enghraifft. Mae goslef hefyd yn ein helpu i ddweud beth rydyn ni'n ei feddwl.
Cyn dechrau gweithio mae’n bwysig dy fod yn cynhesu dy lais er mwyn peidio â rhoi straen ar dannau’r llais. Gwylia’r ymarferion cynhesu hyn gyda Phennaeth Llais y National Theatre, Jeanette Nelson.