Defnyddio dy laisYmarferion seinio

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Ymarferion seinio

Ceisia adrodd rhigymau neu ddarllen darnau o destun gan orynganu pob sain. Bydd hyn yn dy wneud yn ymwybodol o lythrennau na fyddet ti’n eu seinio fel arfer o bosib. Rho gynnig ar y rhain i ddechrau:

Hen bennill traddodiadol
by Anhysbys

Gee ceffyl bach yn cario ni’n dau
Dros y mynydd i hela cnau
Dŵr yn yr afon a’r cerrig yn slip

Dan y Wenallt
by T James Jones

Mae hi’n nos o wanwyn mewn pentre bach
Heb na lleuad na seren i oleuo’r ffurfafen
Nac untroed i oedi’n y strydoedd
Ac mae gallt wargrwm y cwningod a’r cariadon
Fel ar herc anweledig i lawr at y môr pygddu, dudew fel y fagddu.