Defnyddio dy laisYmarferion tôn y llais

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Ymarferion tôn y llais

Ymarfera ddweud y llinell hon gan ddefnyddio’r tôn lleisiol sy’n cael ei awgrymu.

Pam ddest di yma?

  • Tôn llais chwerw
  • Tôn llais gyhuddgar
  • Tôn llais ofnus
  • Tôn llais ddig
  • Tôn llais chwilfrydig
  • Tôn llais syn

Traw

Dyma pa mor uchel neu isel ydy tôn y llais. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn gyffrous neu’n nerfus gallai’r traw godi. Os ydy rhywun yn ceisio rheoli emosiwn neu fynegi rhywbeth difrifol neu gyfrinachol gallai ddefnyddio traw isel.

Ymarfera ddefnyddio ystod o nodau yn dy lais er mwyn i’r llais fod yn hyblyg a mynegiannol. Monoton ydy’r gair am lais sydd ar un nodyn yn barhaus ac oni bai fod hyn yn benderfyniad bwriadol ar gyfer y cymeriad, gall fod yn ddiflas gwrando arno.

Ymarferion cwmpas y llais

Rho gynnig ar yr ymarferion canlynol ar gyfer cwmpas y llais.

Graddfa lithro

Dechreua ar nodyn isel a llithra dy lais i fyny’r raddfa gerddorol mor bell ag y gall fynd. Yna gwna’r un peth o chwith. Bydd ymarfer y dechneg hon yn rheolaidd yn helpu i ehangu dy lais ar y ddau ben.

Ymarfer canu ‘techneg Hustler’

Mae hyn ar gyfer ymestyn ac yna ymlacio tannau’r llais, sy’n arwain at gwmpas ehangach o draw. Ddylet ti ddim gwneud yr ymarfer hwn oni bai dy fod yn cael dy oruchwylio gan arbenigwr oherwydd gallai roi straen ar dannau dy lais os wyt ti’n ei wneud yn anghywir.

Darlunio tannau dy lais

Ceisia ddychmygu tannau dy lais yng nghefn dy wddf - dylet ti allu eu teimlo’n tynhau wrth i ti siarad. Gydag anadl gyson anadla allan dros dannau’r llais gydag anadl isel sy’n cael ei gynnal er mwyn iddyn nhw ddirgrynu. Byddi di’n gwneud sain sy’n swnio fel rhoch angau. Ymarfera reoli cyflymder ac amledd y dirgryniadau fel bod y rhoch yn ‘clicio’ ar wahanol gyflymder.

Mae hyn yn dda iawn ar gyfer llacio tannau dy lais ac mae’n gallu gwella llais blinedig. Nawr gwna’r gwrthwyneb gan dynnu’r aer i mewn a thros blygion dy lais. Dylet ti wneud sain yn debyg i ddeinosor. Tynna’r aer yn ôl dros dannau dy lais mor dynn ac y galli di fel bod y sain yn mynd yn uwch. Mae hyn yn tynhau’r tannau a gall helpu i ehangu cwmpas dy lais ar y pen uchaf. Bydd yn ofalus bob amser i beidio â rhoi straen ar dy lais a gorffenna gyda’r ymarfer cyntaf unwaith eto i ganiatáu i’r tannau llais ymlacio’n ôl.