Defnyddio dy lais i greu cymeriad
Wrth ddewis ‘llais’ ar gyfer rhan, mae angen i ti astudio’r sgript a disgrifiad y dramodydd o’r cymeriad. Meddylia am y canlynol:
Oedran
Ydy’r cymeriad yn ifanc, yn hen ynteu’n ganol oed? Fyddai ei lais yn isel ac yn aeddfed ynteu’n ifanc ac ysgafn?
Personoliaeth
Meddylia am y math o bersonoliaeth sydd gan y cymeriad. Ydy’r cymeriad yn swil ac yn dawel ynteu’n swnllyd ac awdurdodol?
Acen
Ydy’r cymeriad yn dod o le penodol? Efrog Newydd neu ogledd Lloegr? Bydd angen i ti feistroli’r acen gywir. Wrth siarad yn Saesneg gallet ti ddefnyddio ‘received pronunciation’ sef yr acen ‘niwtral’ Seisnig os nad ydy acen y cymeriad wedi ei phennu.
Nodweddion penodol
A ddylai’r cymeriad fod â nodweddion lleisiol penodol, ee pesychiad neu chwerthiniad nerfus? Oes gan y cymeriad chwerthiniad uchel iach ynteu un bach gwichlyd?
Cywair
Ydy’r cymeriad yn siarad mewn cywair isel neu uchel? Fel arfer mae cywair ‘isel’ yn cael ei ddefnyddio i ddangos tynerwch a charedigrwydd, ac yn aml mae i’w ganfod mewn cymeriadau aeddfetach.
Y math o berfformiad
Ydy’r ddrama yn gomedi ynteu’n drasiedi? Rhaid i dy ddewisiadau lleisiol gyd-fynd â ‘theimlad’ cyffredinol y ddrama. Ydy dy berfformiad yn un lleisiol yn unig? Wyt ti’n darparu troslais neu’n adrodd y stori? Os felly bydd angen i ti ‘or-wneud’ dy waith llais ychydig gan wneud yn siŵr ei fod yn cyfleu cymaint â phosibl i’r gwrandäwr. Cofia os mai dim ond dy glywed di mae’r gynulleidfa, fedri di ddim dibynnu ar fynegiant yr wyneb na symudiad y corff i gyfoethogi’r deialog.
