Uchder sain
Mae amrywio uchder y llais yn bwysig i gyfleu amrediad o emosiynau a sefyllfaoedd. Er enghraifft, galli di gyfleu dicter neu gyffro â llais uchel neu ofn â llais tawel.
Mae uchder yn bwysig mewn awditoriwmY man lle mae'r gynulleidfa wedi ei lleoli er mwyn gweld a chlywed y perfformiad. theatr mawr. Mae angen i actorion allu taflu eu lleisiau a pharhau i gadw cyswllt â gwir emosiwn y cymeriad. Mae hyn yn dibynnu ar anadlu da, felly bydd ymarferion anadlu i gynnal y llais yn sicr yn helpu. Os byddi di’n gweiddi heb gynhyrchu’r llais yn iawn, bydd y sain yn dal yn dy wddf/lwnc a byddi di’n cael problemau â dy lais, megis colli llais neu ddolur gwddf/llwnc tost.
Mae angen i’r gynulleidfa dy glywed di ond cofia, does dim angen i ti ‘weiddi’ i gael dy glywed. Mae’r clip hwn o gynhyrchiad y BBC, When Romeo Met Juliet, yn dangos yr actor, Adrian Lester yn esbonio pwysigrwydd taflu dy lais yn y theatr.
Tôn
Tôn y llais ydy ei ‘liw’ neu ansawdd emosiynol. Er enghraifft, gallai mam siarad â phlentyn anhapus mewn llais sy’n ei esmwytho, ond os ydy’r plentyn yn camfihafio gallai ddefnyddio llais cadarn i sicrhau bod y plentyn yn ufuddhau iddi. Mae’r plentyn yn deall yr hyn sy’n cael ei gyfleu drwy dôn y llais lawn cymaint â’r geiriau eu hunain.
Wrth berfformio golygfa rhaid i ti ddeall beth ydy emosiwn dy gymeriad drwy’r amser er mwyn gwneud yn siŵr fod tôn dy lais yn cyd-fynd â’i hwyl a’r hyn rwyt ti am ei gyfleu am deimladau’r cymeriad. Er bod gan bob un ohonon ni ffordd arbennig o siarad, rydyn ni’n amrywio tôn y llais yn sylweddol i sicrhau bod pobl yn ein deall ni.