Ymarfer rhythm Joshua Steele
Mae hwn yn ymarfer rhagorol ar gyfer gwella’r ffordd rwyt ti’n seinio cytseiniaid ffrwydrol a chytseiniaid eraill er mwyn eu hatal rhag bod yn wan.
Seinia gytsain yn unol â’r rhythm. Mae /// yn nodi curiad tawel neu saib.
Rho gynnig ar hyn gyda chytseiniaid eraill, megis d, s, g a f. Gallet ti wneud hyn gydag unrhyw lythyren. Canolbwyntia ar gadw’r sain yn glir ac yn gywir. Pan fyddi di wedi ei feistroli, ceisia gyflymu a pharhau i seinio’n dda.
Pan fyddi di’n gwneud yr ymarfer gyda seiniau ffrwydrol, rho gynnig arni gyda llais a heb lais. Mae ‘gyda llais’ yn golygu dy fod yn gwthio anadl dros y sain fel pe baet ti’n ei siarad ac mae ‘heb lais’ yn golygu nad wyt ti’n defnyddio anadl ond yn gadael i symudiadau dy geg greu’r sain.
Cwlwm tafod
Mae cwlwm tafod yn ffordd ragorol o wella ynganu. Rho gynnig ar y rhain:
- Rowliodd Lowri lawr yr allt
- Llanfairpwllgwyngyll-gogerychwyrndrobwll-llantysilio-go-go-goch
- Mae Llywelyn o Lanelli wedi llyfu llawer o lyffaint
- Oer yw’r eira ar Eryri
Ceisia ailadrodd pob un hyd nes bod dy wefusau a dy dafod yn teimlo’n flinedig. Cyflyma ac arafa fel bo angen.