Defnyddio dy laisYmarferion anadlu

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Ymarferion anadlu

Rho dy law ar dy , o dan dy asennau. Anadla’n ddwfn drwy dy drwyn, gan wneud yn siŵr nad wyt ti’n tynhau nac yn codi dy ysgwyddau. Dylet ti deimlo dy lengig yn cyfangu.

Saf gyda dy draed lled dy gluniau ar wahân gan ddal dy ben-ôl i mewn. Gyda dy law ar dy lengig anadla i mewn drwy dy drwyn a chyfra bum eiliad, dal yr anadl am ddeg eiliad ac yna anadlu allan yn araf trwy dy geg gan gyfrif pum eiliad. Ymarfera gwthio’r anadl allan am gyfnod hirach ac yna gyda sain llafariad megis aaa, oo neu ee.

Gwna’r un peth ond cyfra’n uchel gyda llais clir a chadarn mor bell ag y galli di fynd. Pan fyddi di wedi dod i ben draw’r anadl, dylet ti deimlo anadl newydd yn dod i’w le’n naturiol.

Gorwedda ar dy gefn gan ganolbwyntio’n llwyr ar dy anadlu. Wrth i’r anadl ryddhau, gwna sain mwmian ar nodyn parhaus heb ei orfodi. Rho gynnig ar wneud hyn am gyfnod hirach pob tro.

Rho dy law ar dy lengig ac anadla’n fas fel ci. Wrth i ti wneud hyn am beth amser fe deimli di’r cyhyr yn dechrau brifo. Mae hwn yn ymarfer rhagorol ar gyfer cryfhau dy lengig.

Cyseiniant

I bob pwrpas, mae dy gorff yn uchelseinydd mawr. Os byddi di’n ei gynhyrchu’n iawn a heb densiwn, bydd y sain rwyt ti’n ei wneud yn dirgrynu yn dy gorff fel ei fod yn gyfoethog, yn llawn ac yn teithio’n dda. Mae dwy brif ardal cyseiniant yn y corff.

Cyseiniant y frest

Dyma lle mae’r sain yn dirgrynu yn dy frest. Mae nodau â thraw isel yn tueddu i gyseinio yma. Gwna sain mwmian ac yna ei agor i greu sain llafariad. Chwaraea gyda’r sain, gan ei droi’n ôl yn fwmian yn rheolaidd. Cadwa dy law ar dy frest wrth i ti wneud hyn. Dylet ti deimlo’r sain yn dirgrynu. Arbrofa gydag ystod o nodau a seiniau nes i ti deimlo hyn yn digwydd.

Cyseiniant y pen

Dyma lle mae’r nodau uwch yn cyseinio. Gwna sain mwmian parhaus â thraw uchel a rho dy law ar dy dalcen, ychydig yn uwch na dy drwyn, wrth wneud. Ceisia ddychmygu’r sain yn llenwi’r ardal honno a gwthia’r sain ymlaen. Teimla o gwmpas dy wyneb, dy wddf a thop dy ben i weld lle mae’r sain yn dirgrynu. Gwna’r ymarferion hyn i sicrhau llais sy’n gryf, â thôn lawn sy’n ddymunol i wrando arni.