Gwella dy ddealltwriaeth o waith llais
Ateba’r cwestiwn a chymharu dy ateb â’r ateb enghreifftiol.

Question
Rwyt ti wedi cael rhan person ifanc pwdlyd mewn drama gomedi sydd wedi ei gosod yng Nghaernarfon. Pa ddewisiadau lleisiol fyddet ti’n eu gwneud i lunio cymeriad effeithiol?
Gan fod y ddrama wedi ei gosod yng Nghaernarfon, fe fyddwn i’n gwybod ar unwaith y byddai’r cymeriad fwy na thebyg yn siarad gydag acen ogleddol benodol y ‘Cofi’ (oni bai fod y dramodydd wedi nodi bod y cymeriad yn dod yn wreiddiol o rywle arall).
Mae’r cymeriad yn ei arddegau felly byddai cywair y llais yn ysgafnach ac yn feddalach, heb fod mor ddwfn ac aeddfed â rhywun hŷn.
Mae personoliaeth y cymeriad yn cael ei ddisgrifio’n bersonoliaeth ‘bwdlyd’ sy’n golygu y bydd ei hwyliau’n siŵr o amrywio’n sylweddol o olygfa i olygfa. Byddai fy newisiadau’n adlewyrchu hyn. Byddai’r llais yn uwch ac yn sgrechlyd pan fyddai’r cymeriad yn flin ac yn is ac yn fwy o fonoton os ydy’n pwdu. Mae’n hawdd cael eich temtio i fwmial a cholli ynganiad wrth bortreadu rhywun yn ei arddegau. Gallai’r cymeriad fod yn ddiog yn y ffordd mae’n siarad, ond rhaid peidio â cholli ynganiad cywir neu bydd y gynulleidfa’n methu clywed y ddeialog yn iawn.
Gan fod y ddrama’n gomedi, fyddai hwyliau drwg y cymeriad ddim yn datblygu i fod yn drasiedi tywyll felly byddai’n rhaid i’r dehongliad lleisiol cyffredinol sicrhau bod y comedi’n cael ei fynegi i’r gynulleidfa. Gallai nodweddion lleisiol penodol helpu gyda hyn, megis ochneidio’n faith a thwtian wrth ymateb i gymeriad sy’n oedolyn.