Anadlu
Mae anadlu'n hollbwysig i actorion. Bydd y geiriau'n tawelu ac yn colli eu heffaith os nad oes gen ti ddigon o anadl. Mae'n bwysig ar gyfer uchder y sain hefyd. Mae'r anadl rwyt ti'n ei gymryd yn cynnal y sain ac yn ei wneud yn gryf. Fydd y llais ddim yn cario os nad oes ganddo ddigon o anadl.
Mae anadl yn cael ei gynorthwyo gan gyhyr mawr o dan yr asennau o’r enw’r llengigLlen fawr o gyhyr rhwng y thoracs a'r ceudod abdomenol.. Bydd y ffordd rwyt ti’n dal dy gorff yn effeithio ar dy anadlu a’r ffordd mae dy lais yn swnio.
Pan fyddi di’n anadlu i mewn mae'r llengig/diaffram yn cyfangu. Mae'n symud i lawr ac yn cynyddu cyfaint y frest sy'n achosi i aer gael ei sugno i mewn i'r ysgyfaint. Pan fyddi di’n rhyddhau aer a sain o'r corff mae'r llengig/diaffram yn ymlacio. Mae hyn yn golygu bod y cyhyr hwn yn dy helpu di i reoli'r aer sy'n cael ei ollwng o'r ysgyfaint.
Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos myfyrwyr yn yn gwneud ymarferion lleisiol sy’n canolbwyntio ar dannau’r llais a sut mae osgo’r corff yn gallu effeithio ar dy lais