Ynganiad a seinio
Ystyr ynganu ydy pa mor glir ydy’r llais. Pan fydd actorion yn ynganu’n dda, maen nhw'n llefaru eu holl eiriau'n glir. Er mwyn gallu gwneud hyn mae'n rhaid i ti allu seinio’n dda, sef y gallu i fynegi pob sain a chytsain yn glir. Mae'n bwysig nad ydy llythrennau unigol yn mynd ar goll o fewn y geiriau a’u bod yn cael eu seinio’n gywir.
Mewn awditoriwm theatr mae angen i’r sain mae’r actor yn ei chynhyrchu deithio’n dda. Mae cytseiniaid yn mynd ar goll yn hawdd, fel y llythyren ‘t’ a ‘d’ ar ddiwedd neu ganol gair sy’n gallu effeithio ar eglurder.
Yn y clip Saesneg hwn o When Romeo Met Juliet, mae’r actor Adrian Lester yn canolbwyntio ar ymarferion ynganu a mynegi
Cyhyr ydy’r tafod. Fel unrhyw gyhyr arall yn y corff rwyt ti’n gallu ei hyfforddi i fod yn gryfach a symud i greu seiniau’n gywir a chyflym. Mae tafod diog yn golygu y bydd dy leferydd yn swnio’n ddiog ac efallai y bydd y gynulleidfa’n cael trafferth deall yr hyn rwyt ti’n ei ddweud, yn enwedig os wyt ti’n siarad yn gyflym.
Nid y tafod ydy’r unig beth sy’n bwysig wrth seinio’n effeithiol; mae rhan bwysig gan dy wefusau i’w chwarae hefyd wrth seinio llythrennau.
Seiniau ffrwydrol ydy seiniau fel b-y a p-y (B a P). Maen nhw’n gwneud sain ffrwydrol wrth gael eu rhyddhau o’r gwefusau. Mae’n bwysig bod dy wefusau’n gryf er mwyn i’r seiniau ffrwydrol fod yn glir. Os ydyn nhw’n wan fydd dy eiriau ddim yn hedfan allan i’r awditoriwm gyda digon o rym neu egni i fod yn effeithiol.