Dawns a meim
Mae llawer o arddulliau dawns gwahanol megis bale, tap, modern, jazz, dawns neuadd a Lladin. Gall meim fod yn ffurf gelfyddydol ar ei ben ei hun hefyd.
Os byddi di’n defnyddio dawns yn dy gynhyrchiad, does dim rhaid i hyn fod yn goeth neu’n gymhleth. Os byddi di’n dyfeisio drama sy’n defnyddio atgofion plentyndod, efallai y byddet ti am ddangos gemau plant fel y symudiadau sy’n cyd-fynd â rhigymau, i atgyfnerthu’r cysyniad. Gallai hyn fod yn hawdd i bobl nad ydyn nhw’n ddawnswyr ei ymarfer, os bydd yn syml ac wedi ei seilio ar rhythm syml.
Os bydd angen i ti gynnwys symudiadau dawns caboledig, byddet ti’n amlwg yn defnyddio dawnswyr profiadol sydd wedi eu hyfforddi, ond mae’n bwysig cynnwys gweddill y cast. Dydy hi ddim yn amhosib dysgu cam sylfaenol y gall pawb ei ailadrodd yn y cefndir wrth i’r prif gymeriadau symud drwy ddawns fwy caboledig. Gall actio da wneud i’r ddawns fwyaf syml edrych yn gymhleth.
Meim
Os byddi di’n gwylio artist meim, byddi di’n deall sut mae’r gelfyddyd yn sefyll ar wahân, ond bydd adegau pan fydd meim manwl yn rhan o waith mwy ‘prif ffrwd’. Mae Theatr Gorfforol yn un enghraifft o hyn. Galli di ddefnyddio meim pan fyddi di’n portreadu emosiynau drwy weithredu neu chwarae gwrthrychau difywyd i newid y berthynas rhwng y cymeriad a’r lleoliad yn y darn.
Mae perfformwyr megis seren y ffilmiau mud, Charlie Chaplin, neu’n fwy diweddar y cymeriad comedi, Mr Bean, yn dangos dy fod yn gallu defnyddio meim hefyd i ddatblygu cymeriad os bydd arddull y perfformiad yn caniatáu. Er enghraifft, os byddi di’n sefydlu’r confensiwn y bydd tasgau megis glanhau dannedd a phacio cinio ysgol yn cael eu meimio, gan fod y darn yn pwysleisio natur ddiflas y drefn ddyddiol, bydd y gynulleidfa yn derbyn hyn.

Y peth pwysig i’w gofio gyda meim ydy bod yn fanwl gywir, fel bod modd gweld unrhyw wrthrych dychmygol yn glir wrth i ti roi sylw i’r manylion. Darllena Cyfrwng drama os wyt ti am ddysgu mwy am gelfyddyd meim.
Mae’r un peth yn wir am bob symudiad. Cofia ddadansoddi’r hyn mae dy gorff yn ei ‘ddweud’ a gwybod beth rwyt ti’n ei wneud. Paid â gadael i dy arferion di amharu ar greu cymeriad yn llwyddiannus. Recordia dy waith a’i wylio’n ôl os ydy hynny o gymorth. Mae cymaint o’r hyn rydyn ni’n ei ddweud ar y llwyfan yn weledol felly mae defnyddio dy gorff yn effeithiol yn hanfodol i sicrhau perfformiad llwyddiannus.