Defnyddio dy gorffYmateb i eraill

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Ymateb i eraill

Roedd perthynas y meistr a’r gwas yn edefyn canolog yn Fawlty Towers, rhwng Basil Fawlty, perchennog y gwesty, a Manuel, y gweinydd a gwas o Sbaen. Roedd eu comedi yn dibynnu ar y plot oedd bob amser yn cynnwys pethau’n mynd o’u lle yn drychinebus, ond roedd eu rhyngweithio fel arfer yn gorfforol ac yn dreisgar.

John Cleese fel Basil Fawlty ac Andrew Sachs fel Manuel yn y gomedi sefyllfa Fawlty Towers
Image caption,
John Cleese fel Basil Fawlty ac Andrew Sachs fel Manuel yn y gomedi sefyllfa Fawlty Towers

Mae'n werth meddwl am bwysigrwydd ymatebion mewn perfformiad. Pan fydd ymladd ar y llwyfan, y dioddefwr sy'n perswadio'r gynulleidfa i gredu ei fod wedi ei anafu. Mewn modd tebyg, pan fydd rhywbeth comig yn digwydd ar y llwyfan, gall ymatebion corfforol cymeriadau eraill ddiffinio'r hyn sy'n digwydd yng ngolwg y gynulleidfa. Yn aml, wrth gwrs, rhaid i’r rhain fod yn ymatebion cynnil ond os byddi di’n actio comedi fawr a beiddgar, defnyddia ymatebion mawr a beiddgar.

Symud mewn perthynas â phobl eraill

Pan fyddi di ar y llwyfan, byddi di’n symud gan amlaf mewn ymateb i symudiadau neu o leiaf bresenoldeb pobl eraill. Felly mae’n allweddol i ti allu cyfathrebu’n dda a chreu perthynas gyda’r perfformwyr eraill.

Mewn Theatr Gorfforol yn arbennig, byddi di’n debygol o fod yn gweithio gydag eraill mewn modd bwriadol, o bosib yn cydamseru â’ch gilydd. Yn nodweddiadol gallet ti fod yn gweithio mewn grŵp i gynrychioli rhwystr sydd angen ei oresgyn. Gallet ti fod yn ymuno gydag eraill i gynrychioli dodrefn mewn ystafell y mae cymeriad arall yn mynd i mewn iddi. Darllena Theatr Gorfforol am fwy o wybodaeth.

Un o’r enghreifftiau mwyaf eithafol o symud mewn perthynas â phobl eraill ydy ymladd ar lwyfan, lle mae’r sawl sy’n cael ei daro’n gwneud i’r ergyd neu’r gic ymddangos yn realistig drwy ei ymateb, er na fydd yr ymosodwr wedi ei gyffwrdd mewn gwirionedd.

Mae’n bwysig ymarfer gyda phropiau megis cleddyfau oherwydd mae propiau yn gallu amharu ar dy symudiadau.

Mae’r clip Saesneg hwn yn dangos y cyfarwyddwr ymladd Terry King a’r cyfarwyddwr Gregory Doran yn esbonio sut y cafodd y frwydr cleddyfau rhwng Hamlet a Laertes ei choreograffu a’i hymarfer ar gyfer cynhyrchiad y Royal Shakespeare Company o