Gweithio gyda mwgwd
Beth sy’n digwydd pan fyddi di’n gwisgo mwgwd tra byddi di’n perfformio? Bydd arddull y mwgwd yn cyfrannu rhywbeth at dy waith, ond y peth diddorol ydy beth rwyt ti’n ei golli. Os na allwn ni weld dy wyneb, rydyn ni’n dibynnu ar dy lais a symudiadau i ddeall y sefyllfa. Os ydy’r gwaith yn fud, y symudiad fydd yr unig ffordd o fynegi ystyr. Efallai y byddi di am ddefnyddio ystumiau mawr i wneud yn iawn am golli mynegiant yr wyneb. Ond gallet ti hefyd ganolbwyntio ar fanylion bach megis troi dy ben, edrych i lawr neu i fyny, y ffordd rwyt ti’n dal dy freichiau ayyb.
Beth os ydy cymeriad mewn mwgwd yn fud ond bod angen iddo fynegi dychryn mawr i’r gynulleidfa ond nid i’r person arall ar y llwyfan? Gallai symud braich sy’n gorffwys ar gadair a thynhau dwrn i awgrymu’r emosiwn hwn. Mae gweithio gyda mwgwd yn ymarfer da iawn i wella symudiadau, os byddi di’n dewis defnyddio mygydau yn dy gynhyrchiad neu beidio.
Mae’r clip hwn o gynhyrchiad theatr Vamos, , yn dangos y symudiadau corff bras wedi eu gorwneud sydd eu hangen wrth weithio gyda mygydau