Defnyddio dy gorffGwella dealltwriaeth o symud

Mae'r ffordd rwyt ti'n symud ar y llwyfan yn allweddol mewn gwaith meim, dawns a Theatr Gorfforol. Mae'n gallu mynegi teimladau, oed a rhyw cymeriad. Mae gwisg cyfnod yn effeithio ar symudiad.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Gwella dealltwriaeth o symud

Darllena’r detholiad canlynol o’r ddrama Diwedd Dyn Bach, cyfieithiad o Death of a Salesman gan Arthur Miller. Ateba’r cwestiwn yna cymhara dy ateb â’r ateb enghreifftiol.

Diwedd Dyn Bach
by Arthur Miller
[Daw golau ar y gegin. Mae Willy yn siarad, yn cau drws yr oergell ac yn dod i lawr y llwyfan at fwrdd y gegin. Mae’n tywallt llefrith i wydryn. Mae wedi ymgolli’n llwyr ynddo’i hun ac yn cilwenu].

Willy

Yn rhy ifanc o lawer, Biff, rhaid i ti roi dy waith ysgol yn gynta. Wedi i ti orffen efo hwnnw, mi fydd digon o ferchaid i hogyn run fath â chdi
[Yn wên i gyd wrth un o gadeiriau’r gegin]
Felly’n wir? Y merchaid yn talu drostat ti?
[Mae’n chwerthin]
‘Rargian, mae’n rhaid dy fod ti’n dipyn o foi.
[Mae Willy yn dechrau annerch – yn gorfforol – rhyw bwynt oddi ar y llwyfan, yn siarad trwy wal y gegin ac mae ei lais wedi bod yn codi’n raddol i lefel sgwrsio cyffredin].
Dw i wedi bod yn meddwl pam wyt ti mor ofalus wrth roi sglein ar y car. Ha! Peidiwch ag anghofio’r olwynion, hogia. Ewch i nôl y ‘chamois’ ar gyfer yr olwynion. Happy, defnyddia bapur newydd at y ffenestri, y beth hawsa’n y byd! Dangos iddo fo sut mae gwneud, Biff!

Question

Disgrifia pa symudiadau fyddet ti’n eu hawgrymu i’r actor sy’n chwarae rhan Willy.