
Mae Hanna Hopwood Griffiths yn cyflwyno'r rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru ac yn byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr Iwan Griffiths, gohebydd Newyddion S4C, a'u meibion Aneirin a Brynmor.
Yn ystod y cyfnod clo mae'r ardd gefn wedi bod yn ddihangfa iddi a'i theulu meddai, wrth drafod ei lle i gael llonydd:

Mae'n anodd credu ein bod yn agosáu at flwyddyn gyfan ers cyhoeddi'r Clo Mawr cyntaf. Yn ystod y cyfnod hwn, mae llawer ohonom wedi dod i adnabod ein milltir sgwâr o'r newydd, darganfod cuddfannau a, gobeithio, sawl lle lleol i'r enaid gael llonyddwch yng nghanol cyfnod go gythryblus.
A ninnau'n byw yn Nyffryn Tywi, does dim rhaid crwydro'n bell i ddod o hyd i lefydd sy'n caniatáu'r tawelwch hwnnw, ac mae sawl wâc hyfryd ar stepen ein drws ni.
Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi manteisio ar y llwybrau hyn fel teulu ac wedi cael y pleser o weld ein mab blwydd oed, Brynmor, yn mynd o orwedd yn y carrycot i gerdded ling-di-long law yn llaw gyda'i frawd mawr, Aneirin.

Ond er hyfrydwch y llwybrau hyn wrth lannau Afon Tywi, y lle sydd wedi dod â llonyddwch i'm henaid yn fwy nag unman arall yn y cyfnod hwn yw'r lle wrth gefn ein cartref: ein gardd.
Gyda'r coed yn dechrau gwisgo'u dail unwaith eto, alla i ddim peidio â help ond teimlo bod rhythm y tymhorau'n gryfach eleni nag erioed, a hynny mae'n siŵr, oherwydd fy mod wedi talu mwy o sylw i'r hyn sydd o'm cwmpas.

Bu'r ardd yn ddihangfa yn ystod diwrnodau hir ddechrau'r cyfnod clo cyntaf. Treuliais oriau yn chwarae pi-po, splashio yn y pwll padlo, paentio (wel, trio!) a chasglu dail gydag Aneirin a Brynmor tra bo Iwan yn y gwaith.

O'r ardd, casglodd y bois flodau ar gyfer Sul y Mamau 2020 yn ogystal â thusw hyfryd ar achlysur pen-blwydd ein priodas. Yma, yng ngoleuni'r gwyll, cynnodd Iwan dân fin nos, gyda'r plant - o bellter - yn rhyfeddu ar liwiau'r fflamau.
Tyfon ni lysiau, adeiladu maes chwarae, a gweld llygaid y bechgyn yn sgleinio wrth weld iâr fach yr haf a buwch goch gota am y tro cyntaf erioed.
Mae'r dyddiau lle bu'r oriau'n teimlo'n hir wedi mynd yn angof rywsut, a'r dyddiau melys yn aros yn y cof.

Ond y prif reswm dros ddewis yr ardd fel y lle sy'n rhoi llonydd i'r enaid? Wel, am mai fan hyn oedd cartref sawl aduniad hir-ddisgwyliedig yn ystod tymhorau'r haf, wrth i'r haul ganiatáu i ni greu atgofion bythgofiadwy yng nghwmni swigod teuluol.
Anghofia' i fyth rai o'r eiliadau rheiny, yr eiliadau a dawelodd fy enaid.
Gyda'r gwanwyn yn egino'n obeithiol, gwn nad yw'r eiliadau rheiny yn rhy bell o'u profi eto.
Hefyd o ddiddordeb: