Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd: Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Ar 5 Mai bydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr.
Tasg y Comisiynydd fydd craffu ar lu a sicrhau ei fod yn atebol.
Fe fydd Comisiynydd hefyd yn gallu penodi a diswyddo'r prif gwnstabl a gosod cyllideb ar gyfer y llu.
Y deiliad presennol yn ardal y gogledd yw Winston Roddick, sydd ddim yn ceisio cael ei ail-ethol.
Cliciwch yma am ein canllawiau i:
Dyfed-Powys
Gwent
De Cymru
Yr etholiadau

Pwy yw'r ymgeiswyr?
Owain Arfon Jones, Plaid Cymru
Julian Sandham, Annibynnol
David Taylor, Llafur Cymru
Simon Wall, UKIP Cymru
Matt Wright, Ceidwadwyr Cymreig

Beth yw Heddlu Gogledd Cymru?
Mae'r llu yn gyfrifol am blismona'r gogledd, o Aberdaron a Chaergybi yn y gorllewin i Lannau Dyfrdwy a Wrecsam yn y dwyrain.
Mae'r ardal yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri ac mae 'na ardal sylweddol o arfordir.
Yn y dwyrain y mae'r ardaloedd mwya' poblog a diwydiannol, fel Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
Mae trefi glan môr fel Y Rhyl, Llandudno a Phwllheli yn denu twristiaid ac mae'r brif ffordd, yr A55, yn gyswllt pwysig gyda dinaosoedd poblog Lloegr fel Manceinion, Lerpwl a Birmingham.
Mae porthladd Caergybi yn darparu cyswllt pwysig rhwng Iwerddon a gwledydd Prydain.
Wrth wasanaethu poblogaeth o 675,000 o bobl mae'r llu yn gwasanaethu ardal o 6,300 cilomedr sgwâr.
Y prif gwnstabl presennol yw Mark Polin, sydd wedi gwasanaethu yr ardal ers 2009.
Mae yna 1,454 o swyddogion, 888 o staff a 232 o swyddogion cymorth cymunedol.

Cyllid
Cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2016/17 yw £141m. Ar hyn o bryd mae'r heddlu yn rhagweld arbed £4.54m rhwng 2017/18 a 2019/20.
Praesept yr heddlu - yr arian sy'n mynd yn syth i'r llu - ar gyfer eiddo Band D yw £240.12.
Dyma'r uchaf yng Nghymru, o'i gymharu â £220.06 yng Ngwent, £207.85 yn Ne Cymru a £200.07 yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Trosedd a pherfformiad
Roedd 36,800 o droseddau yng ngogledd Cymru yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2015.
Roedd cynnydd bychan o 1% ers y flwyddyn flaenorol, y cynnydd lleiaf yn nifer y troseddau a gofnodwyd yng Nghymru ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Roedd achosion o drais yn erbyn y person wedi codi 17%, er bod pob un ond un o heddluoedd wedi gweld cynnydd yn y categori hwnnw.
Roedd troseddau rhywiol wedi cynyddu 11%, difrod troseddol a llosgi bwriadol wedi codi 3% tra bod achosion o ladrad wedi gostwng 12% a byrgleriaeth wedi gostwng 10%.
Mae adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn dweud bod y llu wedi perfformio'n dda o ran atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a mynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Fodd bynnag, mae angen i agweddau eraill o effeithiolrwydd yr heddlu i wella, meddai.
Mae rhai diffygion yn ei ddull o ymchwilio i droseddau, meddai'r Arolygiaeth, gyda'r polisi o ddyrannu trosedd i ymchwilwyr heb ei ddeall yn glir gan y gweithlu.
Canfuwyd enghreifftiau o swyddogion rheng flaen yn ymgymryd ag ymchwiliadau a oedd y tu hwnt i'w lefel o hyfforddiant a phrofiad, gan gynnwys achosion cam-drin domestig risg uchel.