Cwpl wedi marw ar ôl ffrwydrad yn eu cartref - cwest

Bu farw Marlene a William John Mumford ar ôl tân yn eu cartref yn Nelson ym mis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl a gafodd eu darganfod yn farw yn eu cartref yn dilyn ffrwydrad yn eu gardd wedi cael eu henwi mewn agoriad cwest ddydd Llun.
Cafodd Marlene, 84 oed, a William John Mumford, 90, eu canfod yn farw mewn tŷ yn Heol Fawr, Nelson ym mis Rhagfyr ar ôl i wasanaethau brys gael eu galw i adroddiadau am dân.
Clywodd y cwest yn Llys Crwner Gwent fod gwasanaethau brys wedi cael trafferth mynd i mewn i'r eiddo ar 12 Rhagfyr oherwydd "maint y tân, a phryder am strwythur yr adeilad a diogelwch".
Pan lwyddodd y diffoddwyr tân fynd i mewn i'r eiddo, cafodd y ddau oedd yn byw yno eu darganfod yn farw.

Clywodd y cwest fod diffoddwyr tân wedi cael trafferth mynd i fewn i'r tŷ
Clywodd y llys fod Marlene Mumford, cyn-weithwraig ffatri o Nelson, wedi'i hadnabod drwy brawf DNA gan wyddonwyr fforensig yn gynharach y mis hwn.
Roedd William John Mumford, cyn-löwr a gafodd ei eni yn Rhymni, hefyd wedi'i adnabod drwy brawf DNA.
Dywedodd y crwner Caroline Saunders nad oedd "unrhyw amgylchiadau amheus ac nad oes unrhyw amheuaeth fod rhywun arall wedi ymyrryd".
Dywedodd fod archwiliad post-mortem dros dro wedi dyfarnu fod y ddau wedi marw o achos y tân.
Cafodd y cwestau eu gohirio tra bo'r ymchwiliadau'n parhau, a bydd gwrandawiadau llawn yn cael eu cynnal ar 6 Hydref.
Bu'n rhaid i dafarn The Tylers Arms, sydd drws nesaf i'r tŷ oedd ar dân, gau yn sgil yr hyn a ddigwyddodd.
Yn siarad adeg y digwyddiad, dywedodd y cynghorydd Eifion ap Llwyd Dafydd fod pawb yn y gymuned yn "drist" a bod marwolaeth y pâr priod yn "drasig".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2025
