Dau wedi marw ar ôl ffrwydrad mewn gardd a thân mewn tŷ yn Sir Caerffili

Y tŷ ar Heol Fawr wedi'i ddifrodi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd wedi'i chau tra bod swyddogion yn delio gyda'r digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau fod dau berson wedi marw ar ôl ffrwydrad mewn gardd a thân mewn tŷ yn Sir Caerffili ddydd Gwener.

Cafodd yr heddlu a swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw ar ôl adroddiadau bod ffrwydrad wedi bod yng ngardd tŷ ar Heol Fawr, Nelson tua 18:00.

Fe gafodd ddau berson eu canfod yn farw yno ac mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Dywedodd cynghorydd cymuned Nelson, Eifion ap Llwyd Dafydd, fod y bobl leol yn "drist iawn" ac mae'r digwyddiad wedi cael ei ddisgrifio fel un "trasig".

Eifion ap Llwyd Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eifion ap Llwyd Dafydd fod y bobl leol yn "drist iawn"

Esboniodd y cynghorydd ei fod ar ei ffordd gartref pan welodd yr injan dân.

"Roeddwn i'n gallu gweld mwg yn dod allan o'r eiddo ac roedd hi'n amlwg bod rhywbeth difrifol wedi digwydd.

"Roedd llawer o swyddogion heddlu a'r gwasanaeth tân yno".

Wrth siarad gyda'r bobl leol dywedodd y cynghorydd bod llawer yn teimlo'n "sobor" ac yn "drist iawn".

"Trasig oedd un gair gafodd ei ddefnyddio i ddisgrifio'r holl beth" meddai.

Mae Eifion ap Llwyd Dafydd wedi byw yn Nelson am 20 mlynedd ac mae'n credu mai "dyma'r tro cyntaf i Nelson gael tân cartref difrifol".

Fe ddywedodd y dafarn, The Tylers Arms, sy'n agos at yr eiddo nad oedden nhw'n gallu agor ddydd Sadwrn wrth i'r heddlu barhau gyda'u hymchwiliad.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddywedon nhw eu bod yn ymwybodol bod hyn yn golygu canslo noson ar gyfer band, a chiniawau Sul pobl funud olaf, ond eu bod yn "siŵr bydd pobl yn deall".

Roedd y ffordd dal ar gau brynhawn Sadwrn gyda chordon yn ei le wrth i'r gwasanaeth tân a swyddogion fforensig barhau i ymchwilio'r safle.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig