Busnesau'r gorllewin yn 'bryderus iawn' dros gynnydd posib i drethi

Llun o ddyn yn sefyll mewn tafarn yn edrych ar y camera. Mae'n gwisgo crys-t a gilet du.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daron Russell Paish wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol ei dafarn yn cynyddu o £98,000 i £130,000

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryderon ymysg busnesau y gallai cynnydd sylweddol mewn trethi busnes yn y flwyddyn newydd fygwth dyfodol rhai.

Mae sawl busnes yn Sir Benfro wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol eu busnesau, neu rateable value, wedi cynyddu o dan drefn ail-brisio sy'n cael ei chynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio bob tair blynedd.

Yn ôl un perchennog mae gwerth ardrethol ei westy wedi codi £60,000, a "bydd rhaid i bopeth fynd lan mewn pris" os fydd ei drethu'n codi.

Mae gwerth ardrethol busnes yn cael ei luosi gyda lluosydd trethi annomestig i osod y trethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r lluosydd yng Nghymru.

Dywedodd y llywodraeth bod ail-brisio cyson yn un o'r newidiadau mae busnesau wedi eu croesawu, a bod hanner y busnesau yng Nghymru ddim yn talu trethi oherwydd rhyddhad gan y llywodraeth.

'Teimlo fel maen nhw'n gweud; so ni moyn chi'

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, y lluosydd yng Nghymru yw 0.568, ond dyw hi ddim yn glir beth fydd y ffigwr o fis Ebrill ymlaen eto.

Yng Nghwm Gwaun, mae gwesty Gellifawr wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol y busnes yn cynyddu o £45,000 i £108,000

"Mae'n mynd lan dros £60,000. Mae'n rhaid i gost hynny ddod mas o rhywle," meddai Charlie Edge, sy'n gweithio fel cogydd yn y gwesty.

"Ni'n lwcus ein bod ni yn gwneud priodasau a ni'n gwybod beth sydd yn dod mewn i'r busnes, ond dwi'n teimlo yn sori dros y bois sydd yn rhedeg y pubs yn Nhrefdraeth."

"Bydd rhaid i bopeth fynd lan mewn pris. Y peints, aros fan hyn a'r bwyd, ond mae pobl yn bwco priodasau dwy flynedd 'mlaen ac maen nhw wedi talu, a da ni methu cynyddu'r pris i rheina sydd yn dod mewn."

Ychwanegodd: "Mae'n teimlo fel maen nhw'n gweud: so ni moyn chi ar agor."

Llun o westy Gellifawr. Ar y dde mae yna adeilad sydd wedi'i adeiladu gyda cherrig. O flaen yr adeilad mae yna ardd fach gydag un goeden ynddi sydd wedi colli rhan fwyaf o'i dail. I'r chwith mae yna adeilad pren sydd gyda'r enw Gellifawr arno.
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwesty Gellifawr wedi cael gwybod bod gwerth ardrethol y busnes yn cynyddu o £45,000 i £108,000

Mae tafarn boblogaidd y Golden Lion yn Nhrefdraeth hefyd wedi cael gwybod bydd gwerth ardrethol y busnes yn cynyddu o £98,000 i £130,000, sy'n gynnydd o 33%.

Daron Russell Paish yw perchennog y dafarn. Mae'n amcangyfrif y bydd rhaid gwerthu rhwng 250-300 pryd bwyd ychwanegol bob wythnos i dalu am y cynnydd.

"Rwy'n bryderus iawn ac o siarad gyda busnesau eraill yn y dref, maen nhw yn poeni hefyd."

"Petasai'n daliad rhent neu'n forgais, yna fe fyddech chi yn cael rhybudd bod e'n cynyddu.

"Does yna ddim ymgynghori na rhybudd wedi bod i'r cynnydd."

Ychwanegodd: "Mae arian yn dynn a dyw pobl ddim yn gwario gymaint, ac mae prisiau trydan, nwy a staffio wedi cynyddu, a bwyd.

"Mae maint yr elw yn lleihau bob blwyddyn, a dyma broblem fawr arall i fusnesau."

Llun o dafarn The Golden Lion. Mae'n adeilad gwyrdd gyda tho llechi. Mae yna arwydd mawr sy'n dweud yr enw The Golden Lion yng nghanol y wal. Mae yna goeden Nadolig i'r chwith wrth ymyl y drws. I'r dde o hynny mae yna bedair coeden lai mewn maint a tri bwrdd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog y Golden Lion yn amcangyfrif bydd rhaid gwerthu rhwng 250-300 pryd bwyd ychwanegol yr wythnos i dalu am y cynnydd

Yn ôl Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae'r ail brisio yn digwydd bob tair blynedd i "adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo".

"Yn sgil ail-brisio, rydym yn disgwyl gweld gwerth adrethol yn cynyddu ac yn lleihau yn ôl y math o eiddo a'r lleoliad daearyddol," medden nhw.

"Yn ystod yr ail-brisio diwethaf, roedd nifer o sectorau, gan gynnwys lletygarwch, wedi cael eu heffeithio yn fawr gan y pandemig, oedd yn golygu bod eu gwerth ardrethol yn is.

"Mae busnesau sydd wedi gweld adferiad yn debygol o weld cynnydd yn y gwerth ardrethol."

'Pryder mwyaf yw'r ansicrwydd'

Yn ôl y cynghorydd annibynnol Huw Murphy sy'n cynrychioli ardal Trefdraeth, mae nifer fawr o fusnesau wedi cysylltu gyda phryderon.

"Dwi wedi cael llwyth o alwadau. Mae busnesau yn ofidus iawn am y dyfodol o 1 Ebrill ymlaen.

"Mae'n edrych yn weddol sicr y bydd trethi busnes yn codi, ni ddim yn gwybod yn bendant, ond i rai, byddan nhw yn codi yn ddychrynllyd o uchel.

"Mae pob busnes yn gorfod gweithio i margin os nad yw nhw yn gallu cynyddu elw bydd pobl yn colli gwaith."

Llun o ddyn yn eistedd mewn bwyty yn edrych ar y camera. Mae ganddo wallt llwyd ac mae'n gwisgo crys siec gyda gilet brown. Tu ôl iddo mae bwrdd pren gyda phedair cadair o dan y bwrdd. Mae yna ddrws gwyrdd a goleuadau Nadolig ar y nenfwd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl busnes wedi cysylltu â'r cynghoyrdd Huw Murphy i rannu eu pryderon

Mae Meleri Ennis, Rheolwr Parc Gwyliau Llwyngwair yn Nhrefdraeth yn dweud mai'r "pryder mwyaf yw'r ansicrwydd".

Dywedodd: "Mae cyflogau yn codi, mae cyfraniadau yswiriant cenedlaethol yn codi, costau bwyd a diod ac mae'n dod ar amser pan mae llai o arian ym mhocedi pobl yn gyffredinol.

"Mae'r wybodaeth i gyd yn dod yn rhy hwyr. Does dim amser i feddwl sut mae arbed arian."

Yn ôl Dr Llyr ap Gareth, sy'n Bennaeth Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae busnesau bach wedi bod "dan y lach llawer dros y blynyddoedd diwethaf".

"Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn mynd ymlaen a sicrhau bod nhw yn defnyddio'r pres o'r gyllideb a chefnogi busnesau bach.

"Mae yna gryn ansicrywdd oherwydd y bwlch rhwng cyllideb llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru.

"Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth cyn gynted a phosib fel bod pobl yn gwybod beth sydd yn dod a bod Llywodraeth Cymru yna i'w cefnogi."

'Busnesau wedi croesawu'r newid'

Mae disgwyl i'r trefniadau ar gyfer trethi busnes gael eu cadarnhau pan fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gosod ar 20 Ionawr 2026.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ail-brisio wrth galon eu newidiadau i drethi busnes, rhywbeth mae "busnesau wedi croesawu" gan ei fod yn rhoi "gwell tegwch yn y system, er mwyn diweddaru biliau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo".

Ychwanegodd y llefarydd ei bod wedi darparu £1bn o ryddhad ardrethi dros gyfnod o chwe blynedd i'r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Dywedodd y bydd yn parhau i roi rhyddhad ardrethi gwerth £250m i fusnesau, gyda hanner y trethdalwyr yng Nghymru, sydd yn cynnwys nifer o fusnesau bach ar draws y wlad, yn elwa o ryddhad ardrethi llawn.