Carcharu dyn am oes am lofruddio ei frawd mewn ffrae

Bydd Darren Steel yn treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 41 oed wedi cael dedfryd oes yn y carchar am lofruddio ei frawd hŷn mewn "ffit o gynddaredd eithafol".
Fe wnaeth Darren Steel ymosod ar Martin Steel, 48, a'i adael i farw o'i anafiadau difrifol yn ardal y Clâs yn Abertawe ym Mai 2023.
Roedd Darren Steel yn honni ei fod wedi lladd ei frawd tra'n ceisio amddiffyn ei hun, ond cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Bydd Steel, o ardal Treforys yn Abertawe, yn treulio o leiaf 20 mlynedd dan glo cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Clywodd y llys fod Martin Steel yn "dad balch i ddwy ferch"
Clywodd y llys fod gan y brodyr "berthynas o gariad a chasineb" a'u bod wedi bod yn ffraeo cyn yr ymosodiad angheuol ym Mai 2023.
Dywedodd yr erlynydd Andrew Jones fod mam y ddau wedi dod o hyd i Martin yn farw ar ôl i gymdogion pryderus ei galw i'r tŷ.
Ffoniodd 999 ar ôl gweld yr "olygfa erchyll" o Martin "wedi plygu mewn cadair yn ei ystafell fyw, yn debygol o fod yn farw ac wedi'i orchuddio mewn gwaed".
Dywedodd Mr Jones: "Roedd wedi cael ei guro'n erchyll yn ei gartref ei hun a'i adael i farw."
Ychwanegodd fod Darren Steel "wedi gwneud dim i helpu ei frawd" ac iddo "redeg i ffwrdd gan adael ei fam i ddelio â'i mab".

Bu farw Martin Steel mewn eiddo ar Hill View Crescent yn ardal y Clâs yn Abertawe
Clywodd y llys fod Martin wedi dioddef "anafiadau trwm i'w wyneb a'i wddf", gan gynnwys "briwiau, crafiadau a chleisiau".
Clywodd y llys fod Darren Steel, ar ôl yr ymosodiad, wedi dweud wrth gymydog fod ei frawd wedi "ei ddyrnu ddwywaith" a'i fod "efallai wedi mynd yn rhy bell", gan ychwanegu nad oedd yn gwybod a oedd wedi ei ladd.
Dywedodd Mr Jones fod Steel hefyd wedi ymosod ar ddyn a menyw yn y dyddiau cyn yr ymosodiad ar ei frawd, ac wedi dangos "trais cynyddol" cyn y llofruddiaeth.
'Fy mywyd wedi ei chwalu yn llwyr'
Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod yr ymosodiad yn "giaidd, yn barhaus ac yn ormodol" a bod y cyfan wedi digwydd "gan dy fod yn meddwl y diwrnod hwnnw fod rhywun wedi dwyn dy gyffuriau".
"Mae'n gwbl amlwg fod yr hyn wnes di i Martin Steel wedi achosi niwed anadferadwy i'r rhai oedd yn ei garu," meddai.
Mewn datganiad, dywedodd mam Martin a Darren Steel bod ei bywyd wedi ei "chwalu yn llwyr".
"Pob nos rydw i'n gweld Martin yn ei gadair, wedi ei anafu ac wedi ei orchuddio mewn gwaed... fe wnaeth rhan ohona i farw'r diwrnod hwnnw gyda Martin," meddai.
Awgrymodd mai sicrhau cyfiawnder i'w mab yw'r unig reswm ei bod hi'n gallu codi o'r gwely bob bore.
"Fe fydd y galar ac effaith y golled yma yn aros gyda fi am byth," meddai.
Ychwanegodd merch Martin Steel, Natasha, na fydd ei bywyd fyth yr un peth hebddo, gyda'i ferch arall, Surrie, yn dweud bod ei thad "yn fwy nag enw mewn achos llofruddiaeth - roedd yn fab, yn dad, yn daid, yn nai, cefnder a ffrind".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror

- Cyhoeddwyd23 Mai 2023

- Cyhoeddwyd20 Mai 2023
