Bannau Brycheiniog: Enwau Cymraeg yn 'bwysig o ran diogelwch'

Fe gyhoeddodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym mis Ebrill 2023 y bydd yn defnyddio'i enw Cymraeg yn unig
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dweud y byddai defnyddio mwy ar yr enwau Cymraeg ar lefydd o fewn y parc yn llesol i ddiogelwch.
Daeth sylwadau'r Parchedig Aled Edwards yn ystod cyfarfod yr awdurdod ar 6 Chwefror ble bu aelodau yn ystyried cynnwys adroddiad newydd sy'n amlinellu sut y mae'r parc yn bwriadu hybu defnydd o'r Gymraeg.
Bydd grŵp penodol yn cael ei sefydlu i ystyried enwau Cymraeg ar lefydd o fewn ffiniau'r parc a dod i benderfyniad ar sillafiadau swyddogol.
Dywedodd pennaeth cyfathrebu'r awdurdod, Bronwyn Lally eu bod hefyd yn bwriadu cyflwyno system "enwau Cymraeg yn gyntaf" ar unrhyw arwyddion, cyhoeddiadau a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.
Enw Cymraeg yn unig i Barc Cenedlaethol y Bannau
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
Defnyddio llysenwau ar lefydd 'ddim am ddisodli enwau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
Parc cenedlaethol i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
"Mae'r strategaeth yn amlinellu sawl mesur y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cyflwyno dros y pum mlynedd nesaf i hybu defnydd o'r Gymraeg," esboniodd Ms Lally.
"Bydd yn adeiladu ar lwyddiant ein hail-frandio yn 2023 a'r ymdrech i adfer ein henw Cymraeg, Bannau Brycheiniog.
"Rydyn ni bellach yn cynnig cyflwyno system enwau Cymraeg yn gyntaf ar ein holl lenyddiaeth, ar y cyfryngau cymdeithasol ac arwyddion ac ati."
Ychwanegodd Ms Lally y byddai cyfieithu ar y pryd hefyd yn cael ei gynnig yn ystod cyfarfodydd yr awdurdod.
'Y cliw yn yr enw'
Yn ystod y cyfarfod ddydd Gwener fe ddywedodd y Parchedig Aled Edwards fod gwybodaeth am yr enwau Cymraeg yn "ddefnyddiol iawn" a bod yna fanteisiol ymarferol yn ogystal.
"Dwi'n meddwl bod defnydd o'r enwau Cymraeg ar lefydd yn fater pwysig iawn o ran diogelwch o fewn y parc.
"Yr esiampl amlycaf yw pan y'ch chi'n mynd fyny Pen-y-fan.
"Mae bod yn ymwybodol o 'Bwlch Du Wynt' yn ddefnyddiol - mae'r enw yn dweud yn glir bod gwynt tywyll yno.
"Mae'r cliw yn yr enw wedyn os ydi hi'n ddiogel i chi fynd yno mewn tywydd gwlyb, niwlog neu eira. Mae 'na fanteision o wybod 'chydig o Gymraeg."
Ychwanegodd mai eithriadau yw'r mannau ble mae 'na anghytuno ynglŷn â sillafu enwau llefydd Cymraeg a bod yr achosion hynny, fel rheol, yn deillio o effaith y Saesneg ar yr enwau hynny.

Mae'r awdurdod yn bwriadu cyhoeddi rhestr swyddogol o'r enwau y byddan nhw yn eu defnyddio
Fe ddywedodd is-gadeirydd yr awdurdod, Dr Liz Bickerton yn y cyfarfod ei bod yn croesawu'r strategaeth.
"Er lles ein treftadaeth a'n diwylliant, mae angen i ni sicrhau ein bod yn defnyddio'r enwau cywir ar lefydd gan eu bod yn rhan mor bwysig o'n hanes."
Awgrymodd aelod arall o'r bwrdd, Julian Stedman, bod rhai enwau llefydd sydd â mwy nag un sillafiad yn y Gymraeg.
"Mae Trellech (yn Sir Fynwy) yn cael ei sillafu mewn tair ffordd wahanol ar arwyddion - gall hyn fod yn ddryslyd pan yn cwblhau gwaith papur."
Ychwanegodd bod yr un peth yn wir am Crucywel, sydd hefyd yn cael ei alw'n Crughywel gan rai.
Ymatebodd Ms Lally i sylwadau Mr Stedman drwy ddweud y byddai rhestr swyddogol yn cael ei gyhoeddi sy'n cynnwys yr holl enwau fydd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.
Fe gytunodd aelodau'r bwrdd yn unfrydol i gefnogi'r strategaeth newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.