Chwaer April Jones yn 'dal i aros i ddeffro o hunllef' ei llofruddiaeth

April Jones (ar flaen y llun) gyda'i chwaer mawr Hazel Jones y tu ol iddi.Ffynhonnell y llun, Hazel Jones/SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd April Jones, yma gyda'i chwaer Hazel, yn bump oed pan gafodd ei llofruddio yn 2012

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl isod yn cynnwys manylion am lofruddiaeth allai beri pryder i rai

Mae chwaer April Jones, y ferch bump oed gafodd ei chipio ger ei chartref yn 2012 a'i llofruddio, dal yn aros i "ddeffro o'r hunllef yma".

Yn siarad â'r wasg am y tro cyntaf, dywedodd Hazel Jones, 31, bod y trawma o golli April wedi "siapio ei bywyd", a dydy hi dal methu â derbyn beth ddigwyddodd.

Roedd April yn chwarae ar ei beic pinc gyda'i ffrindiau ger ei chartref ym Machynlleth pan gafodd hi ei chipio ar 1 Hydref 2012.

Aeth mewn i Land Rover Mark Bridger, y dyn a gafodd ei garcharu am oes am ei chipio a'i llofruddio mewn "ymosodiad â chymhelliad rhywiol".

Er gwaethaf yr holl ymdrechion chafodd corff April fyth ei ddarganfod - dim ond olion bychain o'u hesgyrn ym mwthyn Bridger.

Esboniodd Hazel nad oedd wedi siarad yn gyhoeddus oherwydd "ar ddiwedd y dydd ein chwaer ni oedd hi ac nid yn unig oedd hi wedi marw ond cafodd ei llofruddio'n greulon a'i chipio, felly am broses i fynd trwy".

Hazel JonesFfynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwaer April Jones, Hazel, sydd bellach yn fam i dri yn dweud bod y trawma o golli April dal yn effeithio arni heddiw

Wrth gofio'r foment y cafodd wybod bod ei hanner chwaer ar goll, dywedodd Hazel, sydd â'r un tad ag April, ei bod methu â chredu'r peth.

Roedd hi gartref yn Aberaeron pan ddywedodd ei mam wrthi.

"O'n i'n meddwl 'beth?'" ac fe ailadroddodd ei mam y newyddion: "'Hazel, mae April ar goll'."

Aeth yn syth wedyn i Fachynlleth, tua 30 milltir i ffwrdd, er mwyn bod gyda'i thad Paul a gweddill ei theulu.

Nid tan y diwrnod wedyn mae Hazel yn credu i'r sefyllfa "suddo i mewn yn llwyr".

"Dyw hi ddim wedi mynd am dro bach, mae hi wir ar goll."

Dywedodd nad oedd yn meddwl bod y fath beth yn digwydd yn yr ardal, ond "fe ddigwyddodd o, a digwyddodd o i ni".

April JonesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw corff April Jones byth wedi cael ei ddarganfod

Arweiniodd y digwyddiad at yr ymdrech chwilio fwyaf yn hanes Prydain - gyda swyddogion yn canolbwyntio ar 650 o safleoedd gwahanol ger ei chartref dros ardal o 60km sgwâr.

Cafodd yr heddlu help gan gannoedd o arbenigwyr a miloedd o aelodau'r cyhoedd.

Roedd Bridger, o Geinws, Powys, yn honni ei fod wedi gyrru dros April ar ddamwain, ond nad oedd yn cofio ble roedd wedi rhoi ei chorff.

Ond fe ddatgelodd yr achos llys bod darnau o asgwrn, oedd yn debyg i benglog plentyn, wedi'u canfod ymhlith y lludw yn lle tân ei gartref.

Er bod bwthyn Bridger wedi cael ei lanhau'n drylwyr, cafodd gwaed ei ganfod ar bwys nifer o gyllyll, ac roedd un cyllell wedi'i losgi'n wael.

Roedd Bridger'n cael ei ddisgrifio gan y rhai hynny oedd yn ei adnabod fel person "hyderus, cwrtais a dymunol" ond ar ôl i'r heddlu gymryd ei gyfrifiadur daeth ochr arall i'r amlwg.

Cafodd cyfres o luniau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol eu darganfod, a thystiolaeth ohono'n pori yn defnyddio termau fel "merched pum mlwydd oed noeth".

Roedd lluniau hefyd o bobl oedd wedi cael eu llofruddio gan gynnwys Holly Wells a Jessica Chapman o Soham.

Roedd yna luniau Facebook o ferched lleol gan gynnwys April a'i chwiorydd.

Mae Bridger - a gafodd ddedfryd oes gyfan - wedi glynu at ei stori o beidio â chofio ble roddodd corff April.

Mark BridgerFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe benderfynodd Llys y Goron Yr Wyddgrug yn unfrydol fod Mark Bridger yn euog o lofruddio April

A hithau'n 18 ac yn feichiog ar y pryd, dywedodd Hazel ei bod mor ofnus pan ddysgodd beth oedd wedi digwydd i'w chwaer fach.

"O'n i mor ofnus gan fy mod i'n cario merch fy hun ar y pryd ac roeddwn i mor ofn dod â hi mewn i'r byd 'ma'n gwybod bod yna bobl fel yna ar ein stepen drws.

"Mae wir yn rhoi mewn i berspectif na allwch chi ymddiried yn neb.

"Do'n i methu â dod dros sut all hyn fod wedi digwydd."

'Dwi eisiau fy merch i weld y byd'

Ychydig wythnosau'n unig ar ôl i April ddiflannu, fe roddodd Hazel enedigaeth i'w merch ei hun - moment oedd fod llawn hapusrwydd ond oedd yn hytrach llawn galar.

"O'dd o mor anodd oherwydd o'n i newydd golli fy chwaer a newydd roi genedigaeth.

"O'n i'n trio galaru am fy chwaer ond hefyd caru fy merch newydd.

"O'dd o'n swreal oherwydd pan ddaeth Dad [a'i wraig] Coral i'w gweld hi yn yr ysbyty pan gafodd ei geni gyntaf, gafon nhw sioc achos o'dd hi'n edrych fel April."

Dywedodd fod y tebygrwydd yna wedi gwneud y galar yn anoddach fyth.

Mae Hazel yn fam i Amelia, 13, Ethan, 10, a Hefin, chwech ond dyw'r gofid ddim wedi diflannu, meddai.

"Doedd hi ond wedi bod ar y blaned yma am bum mlynedd a dwi'n cofio edrych arni a meddwl 'ti ddim 'di profi bywyd eto' a chafodd hwnna ei dynnu i ffwrdd o April.

"Dwi eisiau i fy merch weld y byd a chael popeth na chafodd April."

Paul Jones (dde) a CoralFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw tad April, Paul Jones, yma yn 2013 gyda'i mam Coral, yn 2025 heb gael gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i'w ferch

Bu farw tad Hazel ac April, Paul Jones, ar 14 Mai 2025 ar ôl cael diagnosis o glefyd ar ei ymennydd yn 2018.

"Doedd fy nhad byth yn iawn ar ôl April," meddai Hazel.

"Unwaith i April fynd, aeth rhan ohono'n llwyr a ddaeth o ddim yn ôl o hynny erioed.

"Y cyfan dwi'n meddwl am yw ei fod o bellach yn ôl gydag April ac yn ôl i fywyd heddychlon."

Esboniodd bod colli ei thad fel colli rhan ohoni hi hefyd.

"Nes i ymladd drosto fo am mor hir," meddai.

Cannoedd ym MachynllethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cannoedd o bobl ynghyd ar gyfer gwasanaeth a gweddi wrth chwilio am April ar 7 Hydref 2012

Dywedodd Hazel ei bod hi'n onest gyda'i phlant am April a bod ganddi focs o atgofion a darnau o bapurau newydd iddyn nhw weld pan maen nhw'n barod.

Esboniodd ei bod byth wedi cuddio'r hanes o'i phlant.

"Ar ddiwedd y dydd mae'n fywyd go iawn, mae wedi digwydd a dwi am iddyn nhw fod yn wyliadwrus ei hunain."

Ond mae'r trawma wedi effeithio ar sut mae'n gweld dyfodol ei phlant ac mae'n dal i deimlo'n ofnus yn meddwl amdanyn nhw'n tyfu i fyny.

Hazel Jones (canol) a'i merch Amelia (dde) a'i mab (chwith)Ffynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hazel dal i deimlo'n bryderus ac yn dweud bod y "byd ni'n byw ynddo mor frawychus"

"Oes unrhyw un yn gwylio chi? Oes unrhyw un yn dilyn chi? Mae'r byd ni'n byw ynddo mor frawychus.

"Dwi'n ofni gadael i fy mhlant fynd allan a thyfu i fyny a dechrau cael eu bywydau ei hunain.

"Mae 'di bod 13 mlynedd nawr a dydw i dal methu â chredu'r peth.

"Dwi'n dal i aros i ddeffro o'r hunllef yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig