Cofio sefydlu tîm pêl-droed Americanaidd y Caernarfon Centurions yn yr 1980au

Gwilym Evans - gynt o'r Caernarfon Centurions
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy gêm fawr y Super Bowl, mae un Cymro yn hel atgofion am sefydlu tîm pêl-droed Americanaidd yng Nghaernarfon yn yr 1980au.
Gyda hen helmedau'r Dallas Cowboys yn rhan o'u cit, dim ond digon i hanner y chwaraewyr a phrin neb yn deall y rheolau... roedd dipyn o waith dysgu gan y Cofis. Ond fe gawson nhw lond trol o hwyl ac atgofion meddai cyn-chwaraewr.
Fe sefydlwyd y Caernarfon Centurions yn yr 1980au pan gynyddodd diddordeb yn y gamp yn dilyn darlledu gemau'r NFL am y tro cyntaf ar y teledu ym Mhrydain.
Un wnaeth ymuno oedd Gwilym Evans, fydd ar effro yn oriau mân y bore ar 9 Chwefror yn gwylio ei dîm y Seattle Seahawks yn gêm fwya'r flwyddyn yn y gamp - y Super Bowl.
Bellach yn wyneb cyfarwydd ar gaeau pêl-droed y gogledd fel reffari, gôl-geidwad i dîm Bethel, ger Caernarfon, oedd o yng nghanol yr 80au.

Mae Gwilym wedi cadw adroddiad papur newydd am y Centurions. Mae Gwilym yn sefyll ail o'r dde yn y rhes gefn
"Roedd Bethel 'di rhoi fyny fel tîm pêl-droed ac o'n i'n methu'r gêm ac yn cicio fy sodlau yn chwilio am rywbeth i neud," meddai Gwilym, o Lanberis.
"Dwi'n meddwl gweld advert yn y papur newydd neshi am ddechrau tîm American football.
"Doedd gen i ddim diddordeb yn y gêm a dim syniad sut oedd chwarae ond neshi ddeud 'nai drio fo'."
Fe ddechreuodd y Centurions ymarfer yn y Morfa, caeau clwb rygbi'r dref, a'r gêm yn newydd i'r rhan fwyaf yno - heblaw un person.
"Roedd 'na ddynas efo ni oedd yn dod o America neu Canada a hi oedd y rheolwr ac yn gwybod y rheolau i gyd," meddai Gwilym. "Roedda ni'n chwim chwam i ddechrau - roedd o fwy fatha rygbi, efo ni'n taclo rygbi, ond yn ara' bach ddaeth petha'n well."
Mewn gêm mor gorfforol mae gan y chwaraewyr gyfarpar arbenigol i warchod eu cyrff, ond cyn iddyn nhw fuddsoddi mewn rhai eu hunain roedden nhw'n gorfod gwneud y gorau o'r hyn oedd ar gael.
"Nathon ni gael helmets gan y Dallas Cowbois - hen rai nhw - drwy'r manager," meddai Gwilym, oedd yn chwarae fel ymosodwr yn safle'r tight end.
"Roedd rhaid i ni rannu nhw achos doedd 'na ddim digon i bawb. Felly os oedd 'na attack ar y cae fasa ni'n gwisgo nhw ac wedyn os oeddan ni'n colli'r bêl fasa'r defence yn gwisgo nhw. Doedda nhw ddim yn gyfforddus - roeddan nhw'n gwasgu dy ben di."

Crys Gwilym wedi i'r Caernarfon Centurions newid eu henwau i'r Octagon Knights
Ond gyda digon o hyfforddi ac ymarfer fe ddaeth pethau'n well.
Roedden nhw'n chwarae mewn cynghrair newydd yng ngogledd Cymru yn erbyn timau fel Bae Colwyn a Bwcle.
Fe gawson nhw eu noddi gan glwb nos Bangor, a newid eu henwau i'r Octagon Knights, a chwarae yn erbyn timoedd dros y ffin lle'r oedd y safon yn uwch.
"Dwi'n cofio mynd i Widnes a Warrington ac roedda nhw'n hogia' caled, wedi arfer chware rugby league. Doedda ni heb hyd 'noed chware rygbi. Ond roedda ni'n cael croeso da yna.
"Ac aethon ni i Toxteth yn Lerpwl unwaith, a nath nhw stidio ni 76-0.
"Dwi'n cofio mynd drwodd efo'r bêl a'r boi mawr yma yn taclo fi efo'i ben, ei ben o yn erbyn un fi. O'n i'n gweld sêr ond yn trio dangos bod fi heb frifo."

Adroddiad papur newydd lleol o gêm gynta'r Centurions yn erbyn y Wrexham Brewers - pan wnaeth Gwilym gamsefyll gyda'i touchdown cyntaf
Wnaeth y tîm barhau am tua phum mlynedd tan i'r criw roi'r gorau iddi oherwydd diffyg nawdd, yr angen i deithio'n bell i chwarae, a dim digon o gefnogaeth.
Dywedodd Gwilym: "Doedd 'na ddim diddordeb yna fo - roedd gemau yn mynd ymlaen am dair awr, ac yn ganol gaeaf does 'na neb isio gwatchad.
"Ond gafon ni hwyl ac roedda nhw'n griw da a neshi ffrindiau da."

Gwilym gyda Karin a'i merch Lauren yn ystod eu ymweliad â Chymru yn 2015
Mae ganddo ddiddordeb yn y gêm o hyd, sydd wedi arwain at gyswllt agosach gyda pherthynas iddo yn yr UDA.
Fe wnaeth Karin Davies, sy'n byw yn Seattle, gysylltu rhai blynyddoedd yn ôl wrth hel achau a dod drosodd tua 10 mlynedd nôl i gyfarfod Gwilym.
Heblaw am eu llinach - gyda hen daid Gwilym yn frawd i hen hen nain yr Americanes - roedd ganddyn nhw rywbeth arall yn gyffredin.
"Ma' hi 'di gwirioni efo American football," meddai Gwilym. "Chicago Bears o'n i'n cefnogi, ond nath hi berswadio fi i newid i'w thîm hi, y Seattle Seahawks.
"Felly rŵan pan dwi'n edrych ar y Seahawks ar y teledu mae hi'n cysylltu efo fi ac yn gyrru negeseuon am y gêm."

Kenneth Walker III yn sgorio touchdown i'r Seattle Seahawks wrth iddyn nhw guro'r San Francisco 49ers ar 17 Ionawr i fynd drwodd i gêm fwya pêl-droed Americanaidd - y Super Bowl
A dyna fydd yn digwydd gyda'r Super Bowl eleni wrth i'r Seahawks fynd benben gyda'r New England Patriots ar 8 Chwefror am 15:00 amser Califfornia, lleoliad y gêm, neu 23:00 nos Sul ac ymlaen i oriau man bore Llun amser Llanberis.
"Fyddwn ni'n cysylltu yn ystod y gêm, yn trafod be' sy'n digwydd," meddai Gwilym, sydd hefyd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cymru.
"Dwi'n gobeithio neith y Seahawks ennill. Dwi hefyd yn gobeithio neith Cymru fynd drwodd i'r Word Cup achos fydd 'na un o gemau Cymru yn Seattle. Felly faswn i'n gallu mynd drosodd i weld y gêm a gweld Karin - ac mae hi'n cefnogi tîm pêl-droed Cymru hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd5 Chwefror

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019
