Canfod trysor prin ar dir fferm yng Ngheredigion

Tri dyn gyda'r canfyddiadau.Ffynhonnell y llun, Nick Yallope/Peter Nicolas
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Nick Yallope a Peter Nicolas ganiatâd gan y ffermwr Geraint Jenkins i chwilio am fetel ar ei dir

  • Cyhoeddwyd

Mae dynion yng Ngheredigion wedi dod o hyd i eitemau ar dir fferm sy'n dyddio yn ôl bron i 2,000 o flynyddoedd ac yn cael eu datgan yn drysor.

Fe gafodd Nick Yallope a Peter Nicolas ganiatâd i ddefnyddio eu datgelyddion metel i archwilio tir fferm yn Llangynfelyn ger Aberystwyth a daethon nhw o hyd i ddau ingot plwm Rhufeinig.

Y rhain yw'r cyntaf o'u math i gael eu canfod yng ngorllewin Cymru, sy'n golygu eu bod o arwyddocâd hanesyddol.

Maen nhw'n dyddio yn ôl i OC87, yn seiliedig ar lythrennau sy'n cyfeirio at yr Ymerawdwr Domitian - sy'n cael ei gofio am ehangu ymerodraeth y Rhufeiniaid.

Dywedodd Mr Yallope bod "datgloi pennod newydd o hanes ein hardal yn hynod gyffrous" gyda Mr Nicolas yn "hapus iawn" rhannu ei waith â'r amgueddfa leol.

Ignot a datgelydd metelFfynhonnell y llun, Nick Yallope/Peter Nicolas
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaethon nhw o hyd i'r ingot plwm ar dir pori yng Ngheredigion

Roedd yr eitemau yma'n cael eu defnyddio i gynhyrchu offer ac arfau, ac fe gafon nhw eu canfod ar dir pori sy'n eiddo i'r ffermwr lleol Geraint Jenkins.

Dywedodd bod "ingotau Rhufeinig yn eithriadol o brin ac yn cynrychioli cysylltiad pendant â gorffennol diwydiannol Rhufeinig Cymru".

"Mae'n rhyfeddol meddwl bod tir rydyn ni'n ei ffermio'n organig nawr wedi chwarae rhan mewn tirwedd Rufeinig llawer ehangach ar un adeg," meddai.

Aeth ymlaen i esbonio mai'r flaenoriaeth ydy "bod y darganfyddiad yn cael ei drin mewn modd cyfrifol fel bod ei werth hanesyddol, diwylliannol a chynhenid llawn yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn iawn".

Gan fod y darganfyddiadau wedi'u datgan yn drysor y bwriad yw eu harddangos mewn amgueddfa leol.

Dywedodd Curadur Amgueddfa Ceredigion, Carrie Canham eu bod yn "llawn cyffro am y posibilrwydd o gaffael y gwrthrychau rhyfeddol hyn".

Esboniodd mai y mwynau prin oedd ar gael yng Ngheredigion oedd un o'r prif resymau pam bod y Rhufeiniad am goncro'r ardal.

"Byddai plwm a oedd yn cael ei gloddio yma yn teithio ar hyd a lled yr Ymerodraeth Rufeinig," meddai.

"Mae'r ingotau hyn yn tynnu sylw at arwyddocâd Ceredigion wrth adeiladu ymerodraeth yr Ymerawdwr Domitian Caesar Augustus" a gyda'u horiel archaeoleg newydd yn agor yn 2027 "mae amseriad y darganfyddiad yn berffaith".

Os ydych chi'n canfod trysor...

  • Os ydych chi'n dod o hyd i eitem sy'n cael ei ystyried yn drysor - mae sawl diffiniad, dolen allanol ar gyfer beth yw trysor - mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Swyddog Darganfyddiadau, dolen allanol o fewn 14 diwrnod i'w ddarganfod neu o fewn 14 diwrnod i chi sylweddoli y gallai fod yn drysor;

  • Os nad ydych chi'n rhoi gwybod am drysor rydych wedi ei ganfod fe allech chi wynebu dirwy neu garchar - mae yna reolau gwahanol ar gyfer Yr Alban a Gogledd Iwerddon;

  • Os ydych chi wedi canfod trysor mi fydd Swyddog Darganfyddiadau neu guradur amgueddfa yn cysylltu â chi i drafod y darganfyddiad;

  • Mi fydd arbenigwyr yn asesu'r gwrthrych/gwrthrychau a phenderfynu a ydyn nhw'n bodloni'r diffiniad cyfreithiol o "drysor" o dan Ddeddf Trysorau 1996, dolen allanol.

Dywedodd y ffermwr Geraint Jenkins ei fod "wedi synnu" pan ddaeth y ddau ato gyda'u canfyddiadau.

"Rwy'n teimlo'n hynod falch o fod wedi darganfod rhywbeth mor brin a phwysig i'n treftadaeth leol," meddai Mr Yallope ac mae Mr Nicolas am barhau i "geisio achub hanes ar gyfer y gymuned leol a chenedlaethau'r dyfodol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig