Max Boyce a Jess Fishlock ymhlith enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni

- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr, Max Boyce, y pêl-droediwr, Jess Fishlock, ac athrawon Ysgol Dyffryn Aman ymhlith y rhai a ddaeth i'r brig yng Ngwobrau Dewi Sant 2026.
Mae Gwobrau Dewi Sant, sy'n cael eu cynnal gan Brif Weinidog Cymru, wedi dathlu cyflawniadau dros 300 o bobl o Gymru dros y 13 blynedd ddiwethaf.
Max Boyce, o Lyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot, a enillodd y Wobr Diwylliant fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i fywyd a diwylliant Cymru.
Cafodd Jess Fishlock - y pêl-droediwr cyntaf i ennill 100 o gapiau rhyngwladol dros Gymru - ei hanrhydeddu â'r Wobr Chwaraeon.
Ac mae tri aelod o staff Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gâr wedi ennill y wobr am ddewrder yn dilyn ymosodiad gyda chyllell gan ddisgybl yn eu hysgol.
Dywedodd Eluned Morgan ei fod "wedi bod yn fraint anrhydeddu pob un o'r enillwyr eleni sy'n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy balch o fod yn Gymro".
'Enghreifftiau disglair'
Fe ychwanegodd Eluned Morgan ei bod yn "falch iawn o ddathlu cyflawniadau anhygoel Max Boyce" gan ddweud ei fod yn "drysor cenedlaethol".
"Ers cenedlaethau, mae ei ganeuon wedi ennyn balchder Cymreig, gan gipio calon y genedl gyda'i gerddoriaeth, ei hiwmor a'i gynhesrwydd."
Dywedodd hefyd bod "Jess Fishlock yn eicon chwaraeon Cymreig, sy'n ysbrydoli cenhedlaeth o bêl-droedwyr ifanc".
Roedd Jess yn allweddol wrth arwain Tîm Cenedlaethol Merched Cymru i'w rowndiau terfynol ym Mhencampwriaeth EURO UEFA am y tro cyntaf erioed y llynedd.
Ymhlith yr enillwyr eraill mae Brian Jones o Benmaenmawr, a enillodd y Wobr Gwirfoddoli - a hynny am dros 40 mlynedd o wasanaeth gyda Chŵn Chwilio ac Achub Rhyngwladol Prydain.
Henry Engelhardt a'i wraig Diane Briere de l'Isle Engelhardt enillodd y Wobr Arbennig - a hynny i gydnabod creu miloedd o swyddi yn Admiral Insurance a'u gwaith dyngarol drwy Sefydliad Moondance, yn enwedig wrth gefnogi ymchwil canser yng Nghymru.
"Mae Henry a Diane yn enghreifftiau disglair o'r hyn y mae'n ei olygu i fuddsoddi mewn cenedl," meddai'r prif weinidog.
Enwebu athrawon Dyffryn Aman am wobr dewrder ar ôl ymosodiad
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Gwobr arbennig i ferch o dŷ ble bu cam-drin domestig
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
Y rhestr gyfan o enillwyr:
Gwobr Person Ifanc - Cian Evans
Gwobr Dewrder - Liz Hopkin, Darrel Campbell, Fiona Elias
Gwobr Busnes - de Novo Solutions
Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol - Grŵp Dysgu Rhieni, Ysgol Uwchradd Cathays
Gwobr Hyrwyddwr yr Amgylchedd - Deorfa Cynrig Hatchery
Gwobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg Arloesi - Yr Athro Joanne Davies
Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus - Dr Tipswalo Day
Gwobr Gwirfoddoli - Brian Jones
Gwobr Chwaraeon - Jess Fishlock MBE
Gwobr Diwylliant - Max Boyce MBE
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.