Llunio geiriadur newydd o hen ieithoedd Celtaidd Prydain

Dr Simon Rodway yw arweinydd y prosiect arloesol
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect newydd gan Brifysgol Aberystwyth yn gobeithio datrys y dirgelwch ynglŷn â tharddiad yr ieithoedd Celtaidd sy'n cael eu siarad heddiw.
Bydd y geiriadur sy'n cael ei rhoi at ei gilydd o hen ieithoedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon yn canolbwyntio ar yr ieithoedd oedd yn bodoli cyn Oes y Rhufeiniaid, a'u perthynas â'r ieithoedd Celtaidd modern – Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg – a hynny am y tro cyntaf.
Yn ôl Dr Simon Rodway, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, mae'n "hynod gyffrous" i fod yn arwain prosiect o'r fath.
Meddai: "Mae'r dystiolaeth yma wedi cael ei astudio o'r blaen, ond beth sy'n newydd am y prosiect yma, ni'n mynd i edrych ar y dystiolaeth gyda'i gilydd, ac mae hynny'n mynd i roi cyfle i ni weld mwy o'r manylder o ran sut mae'r ieithoedd yn perthyn i'w gilydd, a sut maen nhw'n perthyn i'r ieithoedd Celtaidd ry'n ni'n eu siarad heddiw."

Carreg yn Dunloe, Iwerddon gydag Ogham arni - math o wyddor lle'r oedd llinellau yn cael eu naddu i ymyl garreg
Sail yr ymchwil fydd y dystiolaeth sy'n bodoli o'r ieithoedd cyn-Rufeinig. Ond rhaid edrych yn fanwl am y dystiolaeth yma, meddai Dr Rodway, sydd yn bennaf yn enwau llefydd a phersonol mewn testunau Lladin a Groeg, yn ddyrnaid o arysgrifau Celteg o Brydain Rufeinig, ac arysgrifau cynnar o Iwerddon a Phrydain sy'n defnyddio'r wyddor 'Ogham'.
Gobaith Dr Rodway yw dod o hyd i'r ateb i gwestiwn sydd wedi bod yn pwyso ar academyddion o bob math ers amser maith; sut, pryd ac o ble y daeth yr ieithoedd Celtaidd i Brydain ac Iwerddon?
"Mae 'na waith diddorol iawn yn mynd ymlaen mewn meysydd eraill, yn enwedig ym maes geneteg, sydd yn dangos symudiadau pobl yn Oes yr Haearn a chyn hynny, ac mae hynny yn rhoi rhyw syniad i ni sut a phryd daeth yr ieithoedd yma i Brydain," meddai.
"Ond wrth gwrs, chi ddim yn gallu dweud pa ieithoedd yn union oedd pobl yn eu siarad drwy edrych ar eu genynnau nhw. Felly, ni eisiau canolbwyntio ar y dystiolaeth ieithyddol a thrio gweithio mas rhyw fath o ddamcaniaeth o ran sut y daeth yr ieithoedd yma, a phryd, a sut maen nhw'n perthyn i'w gilydd."
"Ni ddim rili’n gwybod sut, pryd ac o ble y daeth yr ieithoedd Celtaidd i Brydain ac i Iwerddon"
Dr Simon Rodway yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru
Er fod tebygrwydd gramadegol rhwng yr ieithoedd Celtaidd modern, mae yna "fwy o wahaniaeth nag o debygrwydd" rhwng ieithoedd fel y Gymraeg a'r Wyddeleg y dyddiau yma, meddai Dr Rodway.
Ond mae'n bosib iawn y byddai rhywun o Gymru yn medru deall rhywun o Iwerddon yn siarad yn y cyfnod Rhufeinig, meddai, gan mai newidiadau graddol fyddai wedi bod i'r ieithoedd, a hynny wrth i bobl symud yn raddol i'r gorllewin o ganolbarth Ewrop, dros amser.
Enghreifftiau o hen enwau lleoedd sy'n dangos cysylltiad ieithyddol â ieithoedd Celtaidd heddiw
Vindolanda (enw caer ar Fur Hadrian) sy'n cynnwys vindo- (Cymraeg gwynn, Gwyddeleg fionn) + landa (Cymraeg llan), felly *Gwynllan (ystyr llan oedd 'enclosure, cae' yn wreiddiol yn hytrach nag 'eglwys')
Mae tebygrwydd rhwng 'môr' a 'muir' mewn Hen Wyddeleg, sy'n cyfateb i 'Mori-' mewn hen enwau o Brydain, fel Moridunum - 'Caerfyrddin' a Morikambe - 'Morecambe'
Cornovii yw'r hen enw am Cernyw, sy'n cynnwys y gair corn - mewn Gwyddeleg mae corn yn ddarn o dir yn estyn i'r môr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd27 Mai 2018
