Dathlu'r Nadolig ddwywaith - gyda'r Cymry a'r Norwyaid

Siri WigdelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siri Wigdel

  • Cyhoeddwyd

Fe fyddai pobl sy'n caru'r Nadolig yn eiddigeddus o Siri Wigdel gan ei bod hi'n cael dathlu ddwywaith.

Mae hi'n dilyn traddodiad y wlad lle magwyd hi a'r wlad mae hi wedi ei mabwysiadu - Norwy a Chymru. Felly ar 24 Rhagfyr fe fydd hi'n dathlu yn y ffordd draddodiadol Norwyaidd, cyn deffro ar 25 Rhagfyr a dechrau eto gyda dathliadau mwy Cymreig eu naws.

Yn wreiddiol o dref Jørpeland, ger dinas Stavanger yng ngorllewin Norwy, mae'r ddawnswraig a'r coreograffydd bellach yn rhannu ei hamser rhwng Sgandinafia a Gwynedd. Eleni fe fydd yn treulio cyfnod y Nadolig i gyd yng Nghymru, ond dros y blynyddoedd mae hi a'i theulu wedi dathlu'r ŵyl yn y ddwy wlad.

Siri WigdelFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siri'n hoffi mynd yn ôl i Norwy dros gyfnod y gaeaf er mwyn gwneud yn fawr o'r eira

Mae'n dweud bod y gwaith paratoi a'r hysbysebu yn digwydd yn llawer cynt yng Nghymru ac mae'r Nadolig yn llawer mwy cyfalafol na'r amser pan oedd hi'n cael ei magu.

Eleni, fel bob blwyddyn ble bynnag fydd hi'n dathlu, mae hi'n dilyn yr un drefn Norwyaidd o gael yr Adventsstake (canhwyllbren) gyda'i phedair cannwyll sy'n cael eu goleuo bob dydd Sul cyn y Dolig.

"'Da ni'n goleuo'r gannwyll gynta' ar y Sul cyntaf a 'da ni'n canu, ac wedyn 'da ni'n goleuo'r ail y dydd Sul wedyn a bob dydd Sul tan yr un cyn y Dolig," meddai Siri.

"'Da ni'n bwyta cinio neu middag tua phedwar o'r gloch ac mae'n draddodiadol i gael cacen a choffi yn y pnawn ar y dydd Sul.

"Dwi'n neud o yn fama yng Nghymru efo hen ddaliwr cannwyll y teulu, a oedd yn y tŷ pan o'n i'n fabi. Mae'n rili sbeshal i mi."

Siri a'i brawd yn blant gyda calendr adfentFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Un o draddoiadau eraill plentyndod... Siri, ar y chwith, pan oedd hi'n blentyn gyda'i brawd a'u calendr Adfent oedd wedi ei wneud gan eu Nain. Mae Siri yn dal i ddefnyddio'r calendr heddiw ar gyfer ei hŵyr

Pan oedd hi'n blentyn, yr arferiad yn Norwy oedd rhoi'r goeden i fyny ar 23 Rhagfyr ar ôl mynd allan i "nôl un ffresh".

Y diwrnod canlynol oedd y dathlu mawr - 24 Rhagfyr - ac mae Siri yn dal i ddilyn yr un drefn yn ei chartref ym Mhenrhyndeudraeth, lle mae hi'n byw gyda'i phartner, yr actor Gwyn Vaughan Jones.

I ginio mae hi'n paratoi rhywbeth tebyg i bwdin reis gyda siwgr a sinamon - dim byd rhy drwm rhag ofn iddyn nhw orlenwi cyn y prif bryd bwyd. Gyda'r nos fydd hwnnw'n cael ei weini ac yn ei hardal hi, cig oen wedi ei halltu sy'n boblogaidd, gyda thatws, moron a stwnsh rwdan.

Bwyd Nadolig NorwyaiddFfynhonnell y llun, By Bernt Rostadt - Raspeball
Disgrifiad o’r llun,

Pinnekjøtt - un o'r bwydydd Nadoligaidd Norwyaidd, sy'n cynnwys cig oen wedi ei halltu

Meddai Siri: "Mae'n edrych yn reit boring i gymharu efo be' 'da ni'n gael fan hyn yng Nghymru ond er hynny mae pawb wrth eu bodd.

"Ond dydi Gwyn ddim yn deall pam fod y cig oen mor hallt. Dwi'n cofio un Dolig yn Norwy gaethon ni gig oen hallt am dri diwrnod yn olynol a Gwyn yn dweud 'dwi methu copio efo mwy achos mae fy llygaid yn llosgi efo'r holl halen!'"

Mae teulu Siri yng Nghymru yn agor eu hanrhegion o Norwy ar noswyl Nadolig, yn union fel oedd hi'n arfer ei wneud pan oedd hi'n blentyn.

Siri o flaen y goeden Nadolig yn derbyn anrhegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siri, yn 10 oed, yn derbyn anrheg ar noswyl Nadolig gan ei brawd ieuengaf Bjørn sydd wedi gwisgo fel Siôn Corn

"Yn Norwy mae'n draddodiadol i gael sgis newydd pan ti'n tyfu," meddai.

"Dwi'n cofio lot o Nadoligau cael ski packs - a Nain wedi gweu sanau newydd i sgïo i fi.

"Ti'n cael lot o bethau handmade - mae'n draddodiad i gael menig a hetiau wedi eu gweu gan aelodau o'r teulu. Ac mae hynna yn wir hyd heddiw."

Lluniau du a gwyn o Siri yn ddwy oed yn dysgu sgioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siri, bron yn ddwy oed, yn cael gwersi sgïo gan ei mam ar ei sgis cyntaf gafodd hi'n anrheg Nadolig

Siri tua 12 oed ar ei sgis yn yr eirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siri tua 12 oed yn rhoi cynnig ar y sgis newydd gafodd hi'n anrheg Nadolig gan ei nain a taid

Tra bod Siri yn parhau gyda nifer o draddodiadau Norwyaidd ar noswyl Nadolig, pan fydd hi yng Nghymru dydy hi ddim yn cael llawer o amser i fwynhau ei anrhegion gan fod angen paratoi am ei hail ddathliad Nadolig yng Nghymru ar 25 Rhagfyr.

"Mae'n amser reit brysur a dweud y gwir," meddai.

Siri gyda throell nydduFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Siri, 12 oed, gyda'i anrheg Nadolig - troell nyddu ei hen hen nain

Troell nyddu gyda addurniadau NadoligFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r troell nyddu - sy'n 150 oed - yn cael ei addurno bellach yng nghartref Siri ym Mhenrhyndeudraeth

Ond er y prysurdeb, mae hi'n hoff o gadw traddodiadau ei mamwlad yn fyw.

"Dwi'n meddwl pan ti'n mynd i fyw mewn gwlad arall, falle bod pethau sydd ddim yn bwysig pan ti yng ngwlad dy hun yn dod yn fyw pwysig i ti," meddai Siri.

"Mae pawb isho mynd adre adeg y Nadolig, mae hynny yn gyffredin i bawb ym mhob man, felly falle dyna pam dwi dal i gadw'r traddodiadau Norwyaidd er mwyn teimlo fel fy mod i adra.

"A dwi'n meddwl ei fod yn bwysig i gario'r traddodiadau Norwyaidd ymlaen i'r teulu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig