Ydych chi'n gwybod am draddodiadau'r Adfent?

  • Cyhoeddwyd
Canhwyllau AdfentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Canhwyllau Adfent

Eleni, dydd Sul 28 Tachwedd yw dydd Sul cyntaf yr Adfent.

I rai, mae'r Adfent yn golygu esgus i gael bwyta siocled o'ch calendr amser brecwast.

Ond mae ystyr llawer mwy i'r Adfent na hynny...

line

Hen draddodiad

Mae pedair cannwyll yr Adfent cael eu gosod mewn torch ac yn cynrychioli pedair wythnos yr Adfent. Mae'n rhaid ei cynnau mewn trefn benodol.

Fel llawer o draddodiadau'r Adfent, mae traddodiad modern torch yr Adfent yn tarddu o'r Almaen.

Yn ôl y stori, yn 1839, adeiladodd Johann Hinrich Wichern (1808-81), gweinidog yn yr Almaen, dorch allan o hen olwyn trol i helpu plant ysgol gyfri'r dyddiau tan y Nadolig.

Ychwanegodd ganhwyllau bach i'w cynnau bob dydd o'r wythnos yn cynnwys dydd Sadwrn yn ystod yr Adfent, ac ar ddydd Sul, roedd cannwyll fawr wen yn cael ei chynnau.

Daeth mewnfudwyr o'r Almaen â'r traddodiad gyda nhw i America yn yr 20fed ganrif.

Fodd bynnag, mae goleuo cannwyll wastad wedi bod yn arwydd o obaith.

Yn y dyddiau cyn Cristnogaeth yn Sgandinafia, roedd pobl yn gosod canhwyllau wedi'u goleuo ar olwyn; a gweddïo i dduw'r goleuni, yn y gobaith y byddai'r ddaear yn cael ei throi tuag at yr haul, gan ddod â golau a chynhesrwydd.

Torchau Adfent heddiw

Traddodiad Cristnogol yw canhwyllau'r Adfent. Fe gynnir pedair cannwyll ar y dyddiau Sul sy'n arwain at ddiwrnod Nadolig.

Mae'r gwyrddni mewn torchau heddiw yn cynrychioli bywyd; mae'r celyn a'r aeron yn cynrychioli'r goron ddrain a'r gwaed; ac mae conau pinwydd yn symbol o'r atgyfodiad.

Felly, beth mae'r canhwyllau yn eu cynrychioli?

Torch nadoligFfynhonnell y llun, Getty Images

Y gannwyll gyntaf

Porffor yw lliw'r gannwyll gyntaf fel arfer, sy'n symbol o obaith. Weithiau fe'i gelwir yn 'Cannwyll y Broffwydoliaeth' er cof am y proffwydi, yn enwedig Eseia, a ragfynegodd enedigaeth Crist.

Mae'n cynrychioli'r disgwyliad sy'n cael ei deimlo wrth ragweld y Meseia sydd i ddod.

Yr ail gannwyll

Mae'r ail gannwyll, sydd hefyd yn borffor, yn cynrychioli ffydd. Fe'i gelwir yn 'Cannwyll Bethlehem' i atgoffa am daith Mair a Joseff i Fethlehem.

Y drydedd gannwyll

Mae'r drydedd gannwyll yn binc ac yn symbol o lawenydd. Fe'i gelwir yn 'Cannwyll y bugeiliaid' ac mae'n binc oherwydd bod rhosyn yn symbol o lawenydd.

Trydydd Sul yr Adfent yw Sul Gaudete ac mae i fod i'n hatgoffa o'r llawenydd a brofodd y byd pan anwyd Iesu.

Y bedwaredd gannwyll

Ar bedwaredd wythnos yr Adfent, cynnir y gannwyll borffor olaf i nodi wythnos olaf o weddïo ac aros am enedigaeth Iesu Grist.

Gelwir y gannwyll olaf hon yn 'Cannwyll yr Angylion', sy'n symbol o heddwch. Mae'n ein hatgoffa o neges yr angylion: 'Heddwch ar y Ddaear, Ewyllys Da Tuag at Ddynion'.

cannwyllauFfynhonnell y llun, Getty Images