Sir Gâr: Teyrnged i feiciwr modur elusen gwaed fu farw mewn gwrthdrawiad

Dywedodd teulu Mr Rodgers ei fod yn dad, mab, brawd, taid ac ewythr arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur elusen gwaed wedi marw ar ôl cael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Lun.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Audi A3 a beic modur elusen Beiciau Gwaed Cymru ar yr A48 rhwng troad yr Ardd Fotaneg a throad Llanddarog am tua 18:00.
Cafodd Andrew Rogers, 61 oed o Gas-lai, ei gludo i'r ysbyty ond bu farw o'i anafiadau ddydd Iau, 1 Ionawr.
Cafodd gyrrwr y car – dyn 26 oed – ei arestio wedi'r digwyddiad ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal ac mae bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.
'Hynod angerddol' am Elusen Beiciau Gwaed Cymru
Mewn teyrnged brynhawn Gwener, dywedodd teulu Mr Rodgers ei fod yn dad, mab, brawd, taid ac ewythr arbennig.
"Roedd Andrew yn gwirfoddoli fel gyrrwr i Elusen Beiciau Gwaed Cymru ar y pryd, rhywbeth yr oedd yn hynod angerddol amdano.
"Roedd Andrew yn Gristion a bu'n helpu pobl ac yn gwirfoddoli am flynyddoedd lawer.
"Roedd yn ffermwr gydol ei fywyd - roedd yn adnabyddus yn ei ardal ac roedd gan nifer o fewn y gymuned ffermio barch a chariad tuag ato.
"Roedd yn amaethwr gwybodus a lwyddodd i basio'r wybodaeth yna ymlaen i'w blant a'i wyrion."
Mae swyddogion yr heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2025
