Arestio dyn ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a beic modur elusen gwaed

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed wedi cael ei arestio ar ôl gwrthdrawiad difrifol ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin ddydd Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Audi A3 du a beic modur elusen Beiciau Gwaed Cymru (Honda 750) ar yr A48 rhwng troad yr Ardd Fotaneg a throad Llanddarog am tua 18:00.
Cafodd beiciwr modur elusen gwaed ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai all beryglu ei fywyd.
Cafodd gyrrwr yr Audi – dyn 26 oed – ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal. Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yr heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu luniau dash-cam all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.
Mae Beiciau Gwaed Cymru yn elusen sy'n darparu gwasanaeth cludo am ddim i'r gwasanaeth iechyd, yn cario eitemau fel gwaed a phlasma ar draws y wlad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.