Mam yn 'rhoi'r gorau i ddwy swydd' oherwydd diffyg bws ysgol

Bethan Phillips gyda'i meibion Sam ac Andrew
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newid yn sefyllfa'r bysus ysgol wedi effeithio ar incwm ac iechyd meddwl ei theulu, meddai Bethan Phillips o Gwm Llynfi

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Gwm Llynfi yn dweud ei bod hi wedi gorfod rhoi'r gorau i ddwy swydd er mwyn cerdded ei phlant i'r ysgol, yn dilyn newid i bolisi cludiant y cyngor.

Yn ôl Bethan Phillips mae hi bellach yn ennill £1,500 y mis yn llai, ac mae wedi cael effaith ar ei hiechyd meddwl.

Ac mae tywydd garw'r gaeaf wedi gwneud hi hyd yn oed yn fwy peryglus i blant gerdded i'r ysgol, meddai ymgyrchwyr yn erbyn newidiadau i drafnidiaeth ysgol yng Nghymru.

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod eu cynnig nhw yn arfer bod ymhlith y mwyaf hael yn y wlad, ond fod pwysau ar gyllidebau wedi eu gorfodi i wneud newidiadau.

'Dyw e ddim yn deg'

Dim ond disgyblion sy'n byw dros ddwy filltir (3.2km) o'u hysgol gynradd sy'n gymwys i gael trafnidiaeth am ddim.

Bydd deiseb ar y mater yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher.

Mae Ms Phillips, o Nantyffyllon, yn fam i dri o blant, ac mae ei meibion Sam, 7, ac Andrew, 10, yn gorfod cerdded milltir a hanner i gyrraedd yr ysgol Gymraeg leol, Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg.

Er mwyn cerdded gyda nhw, mae eu mam wedi gorfod rhoi'r gorau i ddwy swydd.

"Roeddwn i'n gweithio ar y bws fel goruchwylydd, felly yn amlwg wrth iddyn nhw dorri yn ôl dwi wedi colli'r swydd yna," meddai.

Bethan Phillips yn cerdded i'r ysgol gyda'i meibion Sam ac Andrew
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i Bethan Phillips gerdded i'r ysgol gyda'i meibion Sam ac Andrew hyd yn oed drwy dywydd gwlyb a thywyll y gaeaf

"A dwi wedi cymhwyso fel technegydd fferyllol, ond roedd rhaid i fi roi lan y swydd yna achos doeddwn i methu gweithio o gwmpas yr oriau ysgol – fydden i methu cyrraedd y gwaith nes 10:00 ac wedyn gorfod gadael erbyn 14:00 i'w casglu nhw."

Mae'r gaeaf wedi gwneud pethau hyd yn oed yn "anoddach", meddai.

"Pan mae'n bwrw glaw maen nhw'n blino ac yn cael eu gwlychu," meddai.

"Mae hefyd rhaid croesi tair brif ffordd gan gynnwys cyffyrdd prysur iawn.

"Mae e just mor anodd arnyn nhw – dyle bod ddim disgwyl i blant oedran yma gerdded milltir a hanner mewn tywydd fel hyn, ac mae ganddoch chi blant mor ifanc â phump oed yn cerdded yr un siwrne."

Mae Andrew, 10, yn aelod o fand pres yr ysgol.

"Mae'n cymryd tua 40 munud i gerdded, ond os fi'n cario'r trwmped mae'n hirach, ac mae'n anoddach yn enwedig pan mae'n glawio," meddai.

"Dyw e ddim yn deg bod Mam wedi gorfod rhoi lan dwy swydd.

"Pan fi'n cyrraedd gartref dwi just eisiau gorwedd lawr achos fi wedi cerdded mor hir."

'Pwysau sylweddol ar gyllidebau'

Mae Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion cynradd sy'n byw dros ddwy filltir o'r ysgol.

Yn ôl Rebecca Smart o Faesteg, roedd ei merch hi hefyd yn gwlychu yn y glaw yn aml wrth gerdded i'r ysgol.

Llwyddodd Ms Smart i gael y cyngor i ailsefydlu'r llwybr o Goetre-hen i ysgol ei merch, ar ôl ysgrifennu atynt.

"Mae gan y cyngor ddyletswydd i gael y plant i'r ysgol yn saff," meddai.

"Dwi ddim yn gweld synnwyr yn beth mae'r cyngor yn ei wneud pan maen nhw'n dewis a dethol pa lwybrau maen nhw'n ei ddweud sy'n saff.

Rebecca Smart, rhiant o Faesteg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rebecca Smart yn dweud nad yw rhai o benderfyniadau Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ar ba lwybrau sy'n ddiogel i'w cerdded yn gwneud synnwyr

"Hyd yn oed pan mae rhybudd oren o ran tywydd, mae disgwyl i'r plant gerdded i'r ysgol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr: "Gan fod ein polisi cludiant ysgol ond wedi ei gyflwyno ers mis Medi 2025, mae'n rhy gynnar i ddweud faint yn union rydyn ni wedi arbed hyd yma.

"Ond mae ein cynigion diweddaraf ar gyfer lleihau'r gyllideb yn cynnwys arbediadau disgwyliedig o ychydig dan £1.1m rhwng y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf.

"Ein cynnig blaenorol ni o drafnidiaeth ysgol oedd un o'r rhai mwyaf hael yng Nghymru, ond oherwydd pwysau sylweddol ar gyllidebau a galw digynsail ar wasanaethau sy'n wynebu pob awdurdod lleol, roedd rhaid gwneud y newidiadau hyn fel rhan o ymdrechion ehangach i gydbwyso'r gyllideb."

'Dim atebion hawdd'

Yn Rhondda Cynon Taf, mae Tina Collins wedi cyflwyno deiseb ag 11,790 o lofnodion arni i Lywodraeth Cymru, a bydd hi'n cael ei thrafod yn y Senedd yn ddiweddarach.

"Mae'r polisi ar deithio i ddisgyblion angen ei ddiweddaru," meddai Ms Collins.

"Pan mae'n arllwys y glaw a'r traffig yn drwm, rydyn ni'n meddwl bod tua 100 o geir yn ychwanegol ar y ffyrdd rhwng y bedair ysgol yn yr ardal.

"Mae plant yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb stecs a does dim darpariaeth yno iddyn nhw gadw eu dillad gwlyb.

"Mae rhieni eisiau'r bysus yn ôl. Mae angen gwasanaeth ar y plant er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd yr ysgol yn saff, ar amser, ac er mwyn gwella presenoldeb."

Tina Collins, un o drefnwyr y ddeiseb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tina Collins, un o drefnwyr y ddeiseb, eisiau i Lywodraeth Cymru edrych eto ar eu polisi teithio ar gyfer disgblion ysgol

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf eu bod yn gwario £13m y flwyddyn ar drafnidiaeth i ddisgyblion, ond fod y newidiadau'n "angenrheidiol" yn sgil y pwysau ariannol arnynt.

"Rydyn ni'n disgwyl arbed £2m y flwyddyn, ond rydyn ni dal yn darparu trafnidiaeth i filoedd o ddysgwyr bob wythnos y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

"Mae hynny yn ei hun yn costio ni £4.8m y flwyddyn, a byddai dros draean o'r rheiny sy'n defnyddio'n gwasanaethau cludiant ni ar hyn o bryd ddim yn gymwys os nad oedden ni'n gwneud mwy nag sydd rhaid."

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates nad oedd "atebion hawdd", ond eu bod yn benderfynol o wneud teithio'n "fwy hygyrch, fforddiadwy a diogel" i ddisgyblion.

Byddai hyn, meddai, yn cynnwys newidiadau arfaethedig i wasanaethau bws yn ogystal â'r £22m sydd eisoes wedi ei fuddsoddi yn y cynllun i ddarparu tocynnau am £1 i bobl ifanc.

"Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu trafnidiaeth i ddysgwyr, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw," meddai.

"Rydyn ni wedi ymgynghori'n ddiweddar ar ddiweddaru'r cyngor ar Deithio gan Ddysgwyr, fydd yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth ac arfer da diweddaraf, ac rydym wedi ymrwymo i ddeialog parhaus gydag ymgyrchwyr, awdurdodau lleol, a chyrff perthnasol eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.