Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar o geir yn Abertawe

Ceir mewn gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn 17 oed wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar o geir

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn ei arddegau wedi cael ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad oedd yn cynnwys pedwar o geir yn Abertawe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar ffordd Uplands Crescent, yn ardal Uplands, am 14:25 ddydd Sul.

Mae un dyn wedi cael ei anafu ond mae'r heddlu'n dweud na fydd yr anafiadau hynny'n newid ei fywyd.

Cafodd dyn 17 oed o Abertawe ei arestio ar amheuaeth o fethu â stopio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r heddlu'n cynghori teithwyr i osgoi'r ardal am y tro.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.